Y BBC i ddarlledu cyfres newydd MasterChef a gafodd ei ffilmio'r llynedd
Bydd cyfres newydd MasterChef, a gafodd ei ffilmio cyn i'r cyflwynwyr Gregg Wallace a John Torode gael eu diswyddo, yn cael ei darlledu ar BBC One ac iPlayer, meddai'r gorfforaeth.
Dywedodd y BBC eu bod wedi gwneud y penderfyniad i ddarlledu'r gyfres o ddydd Mercher 6 Awst "ar ôl ystyriaeth ofalus ac ymgynghori â'r cystadleuwyr".
"Mae MasterChef yn gystadleuaeth anhygoel sy’n newid bywydau’r cogyddion amatur sy’n cymryd rhan," meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth. "Y ffocws erioed fu eu sgiliau a’u taith."
Nid oes penderfyniad wedi'i wneud ynghylch darlledu cyfres yn cynnwys enwogion a'r rhaglen Nadolig arbennig, gyda'r cynlluniau hynny i'w cadarnhau, yn ôl y BBC.
Yn gynharach ym mis Gorffennaf, datgelodd adroddiad bod sail i fwy na 40 o honiadau yn erbyn Greg Wallace, a sail hefyd i honiad i John Torode ddefnyddio term hiliol sarhaus.
Y gred yw y bydd y ffordd y mae'r gyfres wedi'i golygu yn cael ei hystyried yn dilyn y canfyddiadau, gan ystyried amlygrwydd Wallace a Torode.
'Ddim yn benderfyniad hawdd'
Mewn datganiad, dywedodd y BBC: "Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd o dan yr amgylchiadau ac rydym yn cydnabod na fydd pawb yn cytuno.
"Wrth ddangos y gyfres, a gafodd ei ffilmio'r llynedd, nid yw mewn unrhyw ffordd yn lleihau ein barn am ddifrifoldeb y canfyddiadau a gadarnhawyd yn erbyn y ddau gyflwynydd. Rydym wedi bod yn glir iawn ynghylch y safonau ymddygiad yr ydym yn eu disgwyl gan y rhai sy’n gweithio i'r BBC, neu ar raglenni sy'n cael eu gwneud ar gyfer y BBC.
"Fodd bynnag, rydym yn credu mai darlledu’r gyfres hon yw’r peth iawn i’w wneud i’r cogyddion sydd wedi rhoi cymaint i’r broses. Rydym am iddynt gael eu cydnabod yn iawn a rhoi’r dewis i’r gynulleidfa wylio’r gyfres."
Daeth y datganiad yn dilyn newyddion yr wythnos diwethaf na fyddai cytundeb John Torode ar MasterChef yn cael ei adnewyddu.
Fe wnaeth y cyflwynydd, sy'n wreiddiol o Awstralia, gadarnhau mai fe oedd y person yn gysylltiedig â honiad o ddefnyddio iaith hiliol mewn adroddiad a oedd yn edrych ar ymddygiad ei gyd-gyflwynydd Gregg Wallace.
Dywedodd Torode nad oedd ganddo "unrhyw gof o’r digwyddiad" a’i fod wedi’i "syfrdanu a’i dristáu" gan yr honiad.
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaeth cwmni cynhyrchu’r rhaglen, Banijay UK, gyhoeddi y byddai Wallace yn rhoi'r gorau i'w rôl ar MasterChef, wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i honiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.
Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei arwain gan gwmni cyfreithiol Lewis Silkin, roedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn erbyn Wallace (94%) "yn ymwneud ag ymddygiad rhwng 2005 a 2018". Iaith a hiwmor rhywiol amhriodol oedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth Wallace ymddiheuro gan ddweud ei fod yn "ddrwg iawn am unrhyw ofid gafodd ei achosi" ac nad oedd "erioed wedi ceisio niweidio na chywilyddio".
Fe wnaeth Torode, sy'n 59 oed, ddechrau cyflwyno MasterChef gyda Wallace yn 2005.
Llun: John Torode (chwith) a Gregg Wallace (dde) gan PA Wire