
Bechgyn yn dod o hyd i grenâd byw o'r Ail Ryfel Byd mewn afon
Mae grŵp o fechgyn wedi dod o hyd i grenâd oedd heb ei ffrwydro o'r Ail Ryfel Byd mewn afon ger y ffin rhwng Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Fe ddaeth y bechgyn o hyd i'r grenâd byw yn Abercych tra eu bod nhw'n pysgota ar 13 Gorffennaf.
Ffe ffoniodd y bechgyn 999 ac fe gafodd Adran Ordnans Ffrwydrol eu danfon i'r afon a cafodd cordon heddlu ei osod yn lleoliad y ddyfais ffrwydrol.
Fe wnaethon nhw gadarnhau mai Grenâd Llaw (Hand Grenade) Mills o'r Ail Ryfel Byd gafodd ei ddarganfod.
Roedd y grenâd yn fyw ac angen cael ei ffrwydro mewn modd diogel.

Dywedodd yr heddlu bod y grenâd wedi cael ei ffrwydro gan yr Adran Ordnans Ffrwydrol yn y fan a'r lle.
Ychwanegodd y llu bod y bechgyn wedi gwneud y peth iawn trwy ffonio'r gwasanaethau brys a pheidio â gafael yn y ddyfais ffrwydrol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud os ydych chi'n dod ar draws neu ddarganfod unrhyw beth amheus, i beidio â'i gyffwrdd ac i gysylltu gyda'r gwasanaethau brys.