Dau gynghorydd Ceidwadol Cyngor Conwy yn ymuno â Reform

Newyddion S4C
Thomas Montgomery a Louise Emery

Mae dau gynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Conwy wedi gadael y blaid ac ymuno â Reform UK.

Fe ddaw lai na 24 awr ar ôl i'r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Laura Anne Jones, gyhoeddi ei bod yn ymuno â Reform UK. 

Cyhoeddodd hynny gydag arweinydd y blaid Nigel Farage ar faes Sioe Frenhinol Cymru. 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas Montgomery a’r Cynghorydd Louise Emery eu bod yn teimlo’n "drist" dros eu penderfyniad gan fynnu nad oedd modd iddyn nhw "eistedd nôl rhagor." 

Ychwanegodd y cynghorwyr bod "y ddwy brif blaid [Y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol] wedi methu."

Mae Thomas Montgomery wedi cynrychioli ward Tudno ers 2022, a fe hefyd yw dirprwy faer Llandudno.

"Heddiw, mae Louise a minnau wedi ymuno â'r degau o filoedd o bobl ledled ein gwlad sy'n sylweddoli nad yw'r ddwy blaid fawr wedi llwyddo i ddarparu'r newid sydd ei angen arnom," dywedodd.

"Mae angen plaid arnon ni sydd â gweledigaeth, angerdd a pholisïau sy’n darparu ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda busnesau bach ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig."

Fe ychwanegodd, er ei bod yn "drist"  i adael "ffrindiau a chydweithwyr yn y Blaid Geidwadol yng Nghymru, ni allwn eistedd nôl rhagor. Mae ein cymunedau, ein sir ac ein gwlad angen Reform."

Mae Louise Emery wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer ward Gogarth Mostyn ers 2017, ac mae hi wedi bod yn ddirprwy arweinydd ac aelod o'r cabinet.

Mae hi hefyd yn gynghorydd tref  yn Llandudno.

Ychwanegodd ei bod yn meddwl bod gan Reform UK "bolisïau synhwyrol" a'i bod yn blaid fydd yn "dod â newid i lywodraeth leol, yn y Senedd, ac yn San Steffan."

Ymateb

Doedd y Ceidwadwyr Cymreig ddim yn dymuno gwneud sylw am ymddiswyddiadau'r cynghorwyr. 

Ddydd Mawrth, wrth ymateb i ymddiswyddiad Laura Anne Jones fe ddywedodd y blaid na fyddai'n "caniatáu i hynny dynnu'n sylw oddi ar ein hymgyrch i gael gwared â Llafur a thrwsio Cymru."

Ond mae'r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi galw ar i’r ddau gynghorydd ymddiswyddo gan ddweud y dylai is-etholiad gael ei gynnal yno er mwyn "rhoi democratiaeth yn gyntaf."

"Yn naturiol, rydw i'n siomedig iawn o glywed y newyddion hyn, gan mod i wedi ymgyrchu ar ran y ddau mewn etholiadau blaenorol. 

"Rwy'n dymuno'r gorau i Louise a Tom yn eu plaid trethi a gwariant uwch," meddai.

Laura Anne Jones oedd yr aelod presennol cyntaf o’r Senedd i ymuno a Reform UK, gan ddweud na allai bellach amddiffyn polisïau'r Ceidwadwyr ar y stepen drws.

Daeth y Ceidwadwyr Cymreig i ddeall ei bod hi’n cefnu ar y blaid tra oedd hi ysgwydd wrth ysgwydd â Nigel Farage a David Jones -  y cyn aelod Ceidwadol dros Glwyd a fu’n gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Does gan Reform UK ddim arweinydd yng Nghymru.

Wrth gael ei holi a fyddai'n dod yn arweinydd y blaid yng Nghymru, ni wnaeth Laura Anne Jones wfftio na gwadu hynny yn llwyr. 

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Reform UK a fydd rhagor o aelodau newydd yn ymuno â nhw. 

Fe ddywedodd y blaid ei bod mewn "sgyrsiau cyson gydag aelodau eraill o bob plaid" a dydyn nhw ddim yn fodlon "gwneud sylwadau am sgyrsiau preifat."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.