Dynes o Ynys Môn wedi marw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i lawr grisiau
Mae cwest wedi dod i'r casgliad fod dynes o Ynys Môn wedi marw'n ddamweiniol ar ôl iddi syrthio i lawr grisiau yn ei chartref, a hynny ar ôl yfed alcohol.
Bu farw Emma Jane Jones o bentref Gwalchmai, a oedd yn 47 oed yn Ysbyty Brenhinol Stoke ar 9 Chwefror 2025.
Cofnododd Uwch Grwner rhanbarth y gogledd orllewin, Kate Robertson, iddi gael anafiadau i'w phen wedi iddi ddisgyn i lawr y grisiau yn ei chartref ym Maes Meurig, ddechrau Chwefror eleni.
Wedi ei marwolaeth, dywedodd teulu Emma Jane Jones, a oedd yn cael ei hadnabod hefyd o dan y cyfenw Williams, ei bod yn berson "byrlymus, gofalgar a chariadus."
"Roedd hi’n fam, chwaer, modryb, ac yn ffrind gwych i gymaint o bobl," meddai'r datganiad ar ran y teulu.
“Roedd Emma yn caru ei mab Tommy ac yn ei garu yn ddiamod. Fo oedd y peth pwysicaf yn ei bywyd.
“I Tommy, nid ei fam yn unig oedd hi, ond ei ffrind gorau."