'Mae bachu gwleidyddion o bleidiau eraill yn arwydd o wendid' i Reform UK
Mae'r sylwebydd gwleidyddol a chyn-gyfarwyddwr cyfathrebu prif weinidog y DU, yn dweud bod penderfyniad plaid Reform UK i dderbyn gwleidyddion sydd wedi gadael y blaid Geidwadol yn "arwydd o wendid."
Daw sylwadau Guto Harri wedi i Aelod y Senedd dros ranbarth Dwyrain Cymru, Laura Anne Jones adael y blaid Geidwadol gan ymuno â Reform UK ddydd Mawrth.
Cyhoeddodd ei phenderfyniad ar faes y Sioe Fawr, gydag arweinydd y blaid Nigel Farage a David Jones, sydd hefyd wedi ymuno â rhengoedd Reform yn bresennol.
Wrth siarad â Newyddion S4C disgrifiodd Guto Harri' dacteg Reform UK o recriwtio gwleidyddion o feinciau cefn pleidiau eraill fel "symudiad gwleidyddol chêp[rhad]."
“Mae ‘na berygl i Reform, achos fi’n credu rhan o’u hapêl nhw, sy’n egluro’r momentwm ar hyn o bryd, yw bod nhw’n trial manteisio ar y rhwyg rhwng y ddwy brif blaid yn Lloegr, ac mae hynny’n wir yng Nghymru hefyd.
“Ond os ydyn nhw’n mynd yn or-gyffrous o ran bachu gwleidyddion sy’n gadael y pleidiau hynny, maen nhw’n colli ychydig bach o’r hyn maen nhw’n esgus sydd ganddyn nhw, sef y ffreshni ac agwedd a phobl wahanol.
“Mae’r ffaith bod chi wedi bachu rhywun sydd jyst yn rhan o rengoedd weddol gyffredin plaid, yn arwydd o wendid yn y pendraw yn hytrach na chryfder.
“Dyw denu cyn-Geidwadwyr sydd wedi dadrithio i rengoedd Reform ddim yn mynd i helpu Reform i dynnu pobl oddi ar y Blaid Lafur na Phlaid Cymru.
“Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ofalus iawn bod nhw ddim yn mwynhau’r tric weddol chêp gwleidyddol ‘ma yn ormod."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Reform UK am ymateb.
'Trawsnewid Cymru'
Mae arolygon barn ddiweddar yn dangos mai Reform UK a Phlaid Cymru sydd ar y blaen yng Nghymru.
Roedd arolwg barn YouGov ym mis Ebrill yn gosod Plaid Cymru ar 30% a Reform ar 25%.
Fe wnaeth arolwg gan More in Common ar ran Sky News rhoi Reform ar 28% a Phlaid Cymru ar 26%.
Roedd ergyd i'r Blaid Lafur gyda sawl arolwg barn yn gosod y blaid ar lai na 20%.
Gydag etholiad y Senedd ar y gweill ar gyfer blwyddyn nesaf, credai Guto Harri bod angen i Reform gynnig mwy na derbyn gwleidyddion o bleidiau eraill er mwyn ceisio "trawsnewid" gwleidyddiaeth yng Nghymru.
“Ond os ydyn nhw o ddifri am drial torri trwyddo yng Nghymru, mae rhaid nhw drio meddwl be’ mae’r recruits yma yn gwneud i’w hapêl nhw, i bobl sydd fel arfer yn pleidleisio am y Blaid Lafur.
“Os ydy Reform yn gyfrwys ac yn chwilio am bobl sydd ddim wedi ymwneud a gwleidyddiaeth, pobl sy’n rhedeg cwmnïau, prifysgolion, uchel yn yr heddlu, bydd ganddyn nhw lot mwy i gynnig na lineup o bobl sydd wedi dadrithio o un plaid." ychwanegodd Guto Harri.
bwn mawr gan ffermwyr Cymru, ac rydw i wedi apelio y bore ma i nifer o bobl, rydym ni eisiau lleisiau ffermio Cymreig, y rhai sydd yn rhan ganolog o ffermio i gynnig eu hunain i fod ar ein rhestr o 96 ymgeisydd." (yn Senedd Cymru)