Aren newydd yr anrheg pen-blwydd 50 'gorau un' i fam o Wynedd

Llinos a’i theulu

Mae mam o Wynedd wedi derbyn yr anrheg pen-blwydd perffaith, wedi iddi gael trawsblaniad aren ar achlysur ei phen-blwydd yn 50.

Mae Llinos Haf Pritchard o Nant Peris wedi bod yn byw gyda chyflwr arennol ers ei bod yn 10 oed.

"Ers fy mod yn 10 oed, dwi'n gwybod fod rhywbeth wedi bod o'i le ar fy arennau, a hynny ar ôl cael sgan gan fod Dad wedi cael diagnosis o Polycystic Kidney Disease, a'i fod yn gyflwr sy'n pasio drwy'r teulu.

"Yn anffodus mae fy mrawd a fy mab yn byw gyda'r un cyflwr, ac roeddwn yn gwybod erioed y byddai siawns cryf y baswn i angen trawsblaniad ryw ddiwrnod."

Image
Llinos

Mae APKD (Adult Polycystic Kidney Disease) yn gyflwr lle mae nifer o blorod (cysts) yn tyfu yn yr arennau (ac yn yr iau ar adegau) nes does dim meinwe iach ar ôl.

Mae 100 o drawsblaniadau aren yn cael eu gwneud bob blwyddyn yng Nghymru.

Yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yw'r unig uned drawsblaniadau yng Nghymru. Yng ngogledd Cymru felly mae cleifion trawsblaniad arennol yn cael eu cyfeirio at unedau yn Lerpwl neu Fanceinion ar gyfer eu triniaethau.

Roedd Llinos yn gwybod fod ei chyflwr wedi bod yn gwaethygu dros y ddwy flynedd diwethaf, ac fe wnaeth y sgwrs am drawsblaniad posib ddechrau yn ystod y cyfnod yma.

Mae'n dweud fod y symptomau o fyw efo methiant arennol wedi dechrau effeithio arni yn ddiweddar: "Roeddwn wedi dechrau teimlo'n flinedig iawn, ac yn byw efo'r symptomau amlwg o fethiant arennol. Crampiau yn fy nghoesau, teimlo'n sâl isho taflu fyny a bod wastad mewn poen."

Mae tad Llinos, Mr Ken Jones, hefyd yn glaf arennol sydd wedi derbyn dau drawsblaniad yn y gorffennol. 

Mae Mr Jones hefyd yn gadeirydd ar elusen cleifion arennol Ysbyty Gwynedd. Dros y degawdau diwethaf mae wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau arennol, ac i annog pobl i drafod y pwnc o roi organau yn agored gyda’u teuluoedd.

Image
Llinos a ken

Wrth i ganlyniadau profion gwaed ddangos fod arennau Llinos yn prysur waethygu, fe benderfynodd meddygon yn Ysbyty Gwynedd Bangor i ychwanegu ei henw at y rhestr trawsblaniadau ym mis Ionawr eleni.

Mae Llinos yn dweud iddi hefyd deimlo'n lwcus ei bod wedi llwyddo i dderbyn trawsblaniad, heb orfod dechrau triniaeth dialysis. Dyma sy'n digwydd i nifer o bobl cyn eu bod yn llwyddo i dderbyn trawsblaniad aren.

Yr Alwad

Roedd Llinos yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ddydd Mawrth wythnos diwethaf. Yn gyfan gwbl annisgwyl fe ddaeth yr anrheg "gorau un" ddeuddydd yn ddiweddarach.

"Fe ddaeth yr alwad am 01:10 am fore Iau, dim ond dau ddiwrnod yn unig ar ôl fy mhen blwydd yn 50! A wel am anrheg a hanner!"

Mae ystadegau cenedlaethol yn dangos fod mwyafrif y cleifion trawsblaniadau yn derbyn galwadau ffôn yn eu hysbysu fod organau ar gael yn ystod y nos.

Image
Llinos

Mae Llinos yn dweud iddi hel meddyliau cyn cael y trawsblaniad, a'i bod wedi poeni am y dyfodol ar ei chyfer hi a'i theulu ifanc.

"Dwi wedi bod yn hel meddyliau. Yn poeni dipyn. Dwi'n ymwybodol iawn taswn i’n fyw 50 mlynedd yn ôl, mae’n bur debyg na faswn i yma heddiw.

"Dwi wedi bod mor mor gysglyd yn ddiweddar, dim egni na brwdfrydedd i wneud dim, sy’n eithriadol o anodd efo dau o blant.

"Methu peidio meddwl a phoeni be fasa’n digwydd i’r plant petawn i’n methu cael trawsblaniad ac yn y blaen."

Image
penblwydd 50 Llinos

 Mae trawsblannu aren newydd i'r corff yn cael ei hystyried fel ”llawdriniaeth fawr”, ac mae adferiad llawn yn gallu cymryd hyd at 6-12 mis.

"Ar y funud teimlo fel taswn i wedi cael fy nharo gan fys! Ond araf bach mae dal iâr meddai’r ymgynghorydd Mr Sharma sydd, yn gyd-ddigwyddiad llwyr ei fod yn ffrindiau mawr efo’r llawfeddyg wnaeth ail drawsblaniad Dad bron i 30 mlynedd yn ôl!"

10 mlynedd ers y newid

Mae hi’n 10 mlynedd eleni ers i’r gyfraith ar roi organau newid yng Nghymru. Yn 2015 cafodd cyfraith "optio allan," ei chyflwyno. Mae'r gyfraith yn golygu bod pob oedolyn yn cael ei ystyried i fod wedi cytuno i fod yn rhoddwr organau posibl pan fydd yn marw, oni bai eu bod wedi cofnodi penderfyniad i beidio â rhoi neu eu bod mewn grŵp sydd wedi’i eithrio.

Bwriad y newid yn y gyfraith oedd cynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w rhoi, ond yn y pen draw teuluoedd sydd â’r gair olaf ac mae ganddynt yr hawl i wrthod. 

Mae mwy na 8,000 o bobl yn aros am drawsblaniadau aren yn y DU, yn ôl ffigyrau diweddaraf y GIG. Mae cymaint â phump o bobl yn marw bob wythnos o ganlyniad i beidio â dod o hyd i roddwr.

Fe ychwanegodd Llinos: "Dwi wir yn teimlo fy mod wedi cael ail gyfle ar fywyd. Yn obeithiol. A mor mor ddiolchgar i’r unigolyn oedd mor anhunanol i roi ei organau i helpu eraill.

"Mi fydd yr unigolyn yma yn rhan o’n bywydau ni fel teulu am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.