Mwy o ddioddefwyr sgandal gwaed i fedru hawlio iawndal
Bydd mwy o ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig yn medru hawlio iawndal, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig argymell newidiadau i'r cynllun iawndal presennol.
Fis Awst 2024, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai dioddefwyr y sgandal gwaed yn yr 1970au a'r 80au yn derbyn taliadau o dan gynllun cymorth am oes.
Ond bellach mae newidiadau wedi eu cyhoeddi i'r cynllun iawndal.
Cafodd 283 o gleifion yng Nghymru eu heintio â hepatitis C yn y 70au a’r 80au. O’r rheini, roedd 55 hefyd wedi’u heintio â HIV.
Yn sgil y newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Mercher, gallai mwy na 1,000 o bobl dderbyn cynnydd yn ngwerth eu iawndal o gymharu â'r hyn fyddai'n cael ei gynnig o dan y cynllun presennol.
Bydd yr argymhellion yn caniatáu i'r rhai a gafodd driniaethau arweiniodd at sgil effeithiau - gael mwy o iawndal na'r hyn sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Bydd y newidiadau hefyd yn arwain at fwy o iawndal ar gyfer bobl â Hepatitis C cronig, sydd wedi profi rhwystrau o ddydd i ddydd.
Mae'r argymhellion hefyd yn effeithio ar deuluoedd agosaf neu ofalwyr pobl a ddioddefodd yn sgil y sgandal gwaed os yw'r dioddefwr wedi marw.
O dan y cynllun presennol, os fyddai person wedi marw ar ôl derbyn gwaed heintiedig, byddai'r cais am iawndal yn dod i ben adeg eu marwolaeth.
Ni fyddai'r partner, brawd neu chwaer, rhiant, neu ofalwr di-dâl yn medru gwneud cais.
Yn sgil y newidiadau, bydd modd i'r ystâd hawlio iawndal. Dyw hi ddim yn glir faint yn union o bobl sydd yn y categori hwn, ond mae'n bur debyg y bydd llawer mwy o bobl yn gynwys i dderbyn iawndal.
Daw'r newidiadau wedi i'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig gyflwyno 16 o arghymhellion yn eu hadroddiad ar 9 Gorffennaf.
Cofeb
Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd bod Clive Smith, Llywydd y Gymdeithas Haemophilia wedi ei benodi'n Gadeirydd Pwyllgor Coffa Gwaed Heintiedig.
Bydd Mr Smith yn arwain y gwaith i greu cofeb i'r dioddefwyr. Bydd y prosiect yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cofeb Brydeinig, a bydd yn cefnogi'r gwaith o godi cofebau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd y pwyllgor hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau coffa, gyda'r bwriad i gynnal y cyntaf erbyn diwedd 2o025.
Beth yw'r sgandal gwaed?
Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV a Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.
Mae 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed yn y 70au ac 80au.
Yn eu plith, roedd Colin Smith o Gasnewydd a fu farw yn saith oed yn 1990 ar ôl derbyn cynnyrch gwaed heintiedig gan yr Athro Arthur Bloom, meddyg byd-enwog yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd yr ymchwiliad i'r sgandal bod y "gwir wedi cael ei guddio" a bod dioddefwyr wedi cael eu "methu dro ar ôl tro" gan feddygon, y GIG a’r Llywodraeth.
Ar ôl i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyhoeddi fis Mai 2024 , dywedodd Llywodraeth y DU y byddai dioddefwyr yn cael taliadau iawndal.