Mwy na 100 o bobl wedi marw o newyn yn Gaza medd ei hawdurdod iechyd
Am y tro cyntaf ers i'r rhyfel yn Gaza ddechrau ym mis Hydref 2023, mae awdurdod iechyd y diriogaeth wedi dweud bod dwsinau o bobl wedi marw o newyn.
Mae o leiaf 101 o bobl wedi marw o ddiffyg maeth yn ystod y gwrthdaro, gan gynnwys 80 o blant yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Palestina.
Ychwanegodd yr awdurdod iechyd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi marw yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, wedi disgrifio'r sefyllfa fel "sioe arswyd".
"Mae diffyg maeth yn cynyddu’n sydyn, mae newyn yn curo ar bob drws, ac yn awr rydym yn gweld anadl olaf system ddyngarol sydd wedi’i hadeiladu ar egwyddorion dyngarol," meddai.
"Mae’r system hon yn cael ei hamddifadu o’r lle i weithredu, ei hamddifadu o’r lle i gyflawni, ei hamddifadu o’r diogelwch i achub bywydau."
Mae Israel yn rheoli'r holl gyflenwadau sy'n dod i mewn i Gaza ac wedi gwadu ei bod yn gyfrifol am brinder bwyd.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth Israel rwystro'r holl gyflenwadau rhag dod i mewn i'r diriogaeth.
Ond fis Mai fe wnaeth ganiatáu i gymorth ddod i mewn eto, yn bennaf trwy'r Sefydliad Dyngarol Gaza dadleuol sy'n cael ei gefnogi gan America.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae lluoedd Israel wedi lladd mwy na 1,000 o Balesteiniaid sy'n ceisio cael cyflenwadau bwyd ers i'r Sefydliad Dyngarol Gaza ddechrau gweithredu.
Dywedodd Mr Guterres fod Israel wedi dwysáu ei gweithrediadau milwrol yn Gaza, gan gynnwys trwy gyhoeddi gorchmynion dadleoli gorfodol newydd mewn rhannau o ganol Deir el-Balah. Dyma'r ardal olaf oedd yn cael ei hystyried yn ddiogel.
Llun: Majdi Fathi via Reuters Connect