Ozzy Osbourne wedi marw yn 76 oed

Ozzy Osbourne

Mae canwr y grŵp Black Sabbath Ozzy Osbourne wedi marw yn 76 oed. 

Cyhoeddodd ei deulu hynny nos Fawrth gan nodi: "Gyda thristwch na all geiriau gyfleu, rydym yn gorfod cyhoeddi bod ein hannwyl Ozzy Osbourne wedi marw y bore ma. 

"Roedd gyda'i deulu ac wedi ei amgylchynu gan gariad. Rydym yn gofyn i bawb barchu preifatrwydd ein teulu ar yr adeg hon."

Yn brif ganwr grŵp roc Black Sabbath, roedd yn gymeriad lliwgar, gyda phresenoldeb theatrig ar lwyfan.   

O dan ei enw John Michael Osbourne, cafodd ei eni ar 3 Rhagfyr 1948 yn Aston, Birmingham. 

Gadawodd yr ysgol yn 15 oed, gan weithio yma ac acw, yn cynnwys mewn ffatri, cyn ymuno â sawl band gyda'i ffrind ysgol, Geezer Butler.

Yn gynharach y mis hwn, ffarweliodd â'i ffans yn ystod aduniad Black Sabbath, ym Mharc Villa, Birmingham.

Dywedodd wrth y miloedd a oedd yn bresennol ei "fod yn deimlad da bod ar y llwyfan hwn."

'Dyn hyfryd a chefnogol'

Mewn teyrnged iddo nos Fawrth fe ddywedodd y cerddor Lloyd Macey o Ynyshir, Rhondda Cynon Taf, ei fod yn "ddyn hyfryd a chefnogol iawn."

Roedd Lloyd Macey wedi cyfarfod â'r seren roc tra’n cystadlu ar raglen The X Factor yn 2017. Roedd gwraig Ozzy, Sharon Osbourne, yn feirniad ar y rhaglen ar y pryd.

Dywedodd Mr Macey: "Newyddion ofnadwy o drist.

"Gwrddes i Ozzy ar y daith X Factor, dyn hyfryd a chefnogol iawn a oedd yn amlwg yn addoli Sharon a’i deulu.

"Heddwch i’w lwch."

Llun: Creative Commons

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.