Carchar i ddyn 18 oed am achosi anafiadau i ddyn arall gyda machete
Carchar i ddyn 18 oed am achosi anafiadau i ddyn arall gyda machete
Mae dyn 18 oed wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am ymosod ar ddyn arall gyda machete.
Cafodd Daniel Harris o Frynna yn Rhondda Cynon Taf ei ddedfrydu ar ôl ymosod ar y dyn yn ei dridegau yn y Barri, Bro Morgannwg ar 11 Rhagfyr y llynedd.
Roedd y dioddefwr wedi cerdded tuag at Harris yn meddwl mai rhywun arall oedd e.
Tynnodd Harris arf allan o'i drowsus a dechrau ymosod arno.
Ceisiodd y dyn ffoi, ond llwyddodd Harris i'w ddilyn, a pharhau i ymosod arno cyn gadael yr ardal.
Roedd y dyn angen 20 o bwythau oherwydd anafiadau i'w wyneb, a chafodd sawl anaf arall i'w fraich a'i goes.
Cafodd Daniel Harris ei ddedfrydu i chwe blynedd mewn canolfan i droseddwyr ifanc am achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
'Profiad trawmatig'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phillip Marchant o Heddlu De Cymru mai ei obaith wedi'r dedfrydu yw bod pobl yn ystyried eu penderfyniadau i gario arf ar y strydoedd.
"Mae taclo trosedd sydd yn cynnwys arfau fel machetes a chyllyll yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, ac rydym yn cymryd digwyddiadau fel hyn yn hynod ddifrifol," meddai.
"Does dim lle yn ein cymunedau i'r rhai sydd yn cario cyllyll.
"Rydw i'n falch o weld y ddedfryd hon, ac yn gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i Harris bwyso a mesur ei benderfyniad i gario arf.
"Tra bod hwn yn brofiad hynod drawmatig i'r dioddefwr, fe allai pethau fod llawer gwaeth."