'Gwaddol arbennig': Lansio Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar ar faes Y Sioe Fawr

Dai Jones Llanilar

Mae gwobr goffa Dai Jones Llanilar wedi cael ei chyhoeddi ar faes Y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mawrth.

Mae'n cael ei chynnig ar y cyd gan S4C a Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru er cof am y ffermwr a'r cyflwynydd adnabyddus.

Am dros 50 o flynyddoedd, roedd Dai Llanilar yn ffermwr a chyflwynydd ar raglenni amaeth ac adloniant yng Nghymru.

Bu farw yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Bydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio gyda chwmni cynhyrchu Telesgop, sy'n gyfrifol am raglen Ffermio, a Slam, cynhyrchwyr Cefn Gwlad ac Y Sioe er mwyn datblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.

Yn ôl Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C, bydd y wobr yn agor y drws i dalent y dyfodol.

"Roedd S4C yn awyddus i gynnal Gwobr Goffa er cof am Dai, er mwyn cadw’r cof yn fyw am ei gyfraniad amhrisiadwy i fyd amaeth, a’r byd darlledu yng Nghymru.

"Roedd e wir yn un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.

“Gobeithiwn y bydd y Wobr hon yn agor y drws at fyd darlledu i bobl ifanc, gan fagu a meithrin talent y dyfodol, a sicrhau ein bod yn parhau i ddod â chynnwys ffres a pherthnasol gefn gwlad Cymru i’r sgrîn.”

Image
Geraint Evans a'r Athro Wynne Jones
Geraint Evans a'r Athro Wynne Jones

'Pwysigrwydd Cymru wledig'

Dywedodd Yr Athro Wynne Jones, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bod y wobr yn gyfle i sicrhau bod "gwaddol arbennig" Dai Jones Llanilar yn parhau.

“Mae’r Gymdeithas yn awyddus iawn i gael gwobr arbennig i bobl ifanc sydd â brwdfrydedd dros sylwebu ar faterion gwledig ac ar bwysigrwydd Cymru wledig.

"Mae teulu Dai yn gefnogol iawn ac yn falch o weld y cyfryngau a’r Sioe Frenhinol yn cydweithio i greu’r cyfle arbennig hwn i'r genhedlaeth nesaf o gyflwynwyr a gweithwyr yn y maes. Bydd y wobr hon yn sicrhau bod gwaddol arbennig Dai yn parhau am flynyddoedd i ddod.”

Er mwyn cystadlu am y wobr, mae angen bod o dan 30 oed a chyflwyno syniad yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth i gwmni Telesgop cyn 1 Hydref eleni.

Hefyd, mae gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu ychydig am eu hunain a pham eu bod yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr.

Bydd rhestr fer o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i banel fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, tîm rhaglenni Ffermio a Chefn Gwlad, ac S4C.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y Ffair Aeaf, sef 24 a 25 Tachwedd eleni, yn Llanelwedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.