Cyhuddo dyn o ddynladdiad wedi ymosodiad honedig yn Rhondda Cynon Taf

Llys Ynadon Merthyr

Mae dyn 35 oed wedi ei gyhuddo o ddynladdiad mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ym mhentref Beddau, Rhondda Cynon Taf.

Ymddangosodd Luke Jones o Donteg, ger Pontypridd yn Llys Ynadon Merthyr fore Mawrth.   

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Moorland Crescent ychydig cyn 21:25 ar 9 Gorffennaf wedi adroddiadau fod dyn wedi cael ataliad ar y galon.

Yn ôl yr heddlu, daeth i'r amlwg wedi i blismyn gyrraedd y safle fod y dyn 46 oed wedi disgyn i'r llawr ar ôl ymosodiad arno. 

Roedd mewn cyflwr difrifol. 

Cafodd ei gludo i ysbyty gerllaw, ond bu farw ddydd Sul, 20 Gorffennaf.

Mae Luke Jones wedi cael ei gadw'n y ddalfa tan ei wrandawiad llys nesaf ar 19 Awst.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.