Tom Jones yn gohirio sioe oherwydd salwch fis cyn cyngherddau Caerdydd
Mae Syr Tom Jones wedi gohirio ei sioe, oriau cyn roedd i fod i gamu ar y llwyfan.
Roedd y canwr 85 oed i fod i berfformio yn ninas Bremen yn yr Almaen nos Fawrth, ond mae ganddo haint yn gysylltiedig â'r ysgyfaint.
Ar ei gyfrif Instagram, dywedodd y Cymro: “Helo i'm ffans i gyd yn Bremen. Yn anffodus, rwyf yn gorfod gohirio fy sioe heno gan fod gen i haint sy'n golygu fy mod angen triniaeth a gorffwys.
“Rwy'n gwybod bod hyn yn hynod o siomedig, ac yn achosi anghyfleustra i chi i gyd, ac mae'n wir ddrwg gen i.
“Ond bydd y sioe bellach yn cael ei chynnal ar 28 Gorffennaf, ac rwy'n edrych ymlaen i'ch gweld bryd hynny.”
Mae Syr Tom yng nghanol ei daith swmpus yn y Deyrnas Unedig a chyfandir Ewrop yr haf hwn, a ddechreuodd ar 13 Mehefin yn Surrey yn ne ddwyrain Lloegr.
Bydd yn gorffen ei daith yng Nghymru, gyda dau berfformiad ar y gweill yng Nghaerdydd ar 20 a 21 Awst yng Nghastell Caerdydd.