Arestio dyn am yrru dan ddylanwad cyffuriau wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A40 yn Sir Gâr.
Cafodd yr heddlu eu galw i Fanordeilo, ger Llandeilo tua 08.15 fore Mawrth, yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng fan Lexon wen a char Volkswagen lwyd.
Cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, cyn cael ei gludo i'r ddalfa.
Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y gwrthdrawiad, cyn cael ei hail agor am 10.35.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd.