Dei Tomos: Cyfraniad y diwydiant amaeth ddim yn cael ei 'werthfawrogi'
Ar ôl iddo agor y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn swyddogol fore Llun, mae’r darlledwr Dei Tomos wedi dweud ei fod yn bryderus nad yw gwerth cyfraniad y diwydiant amaeth i fywyd cefn gwlad yn cael ei werthfawrogi.
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru brynhawn Llun, dywedodd Mr Tomos nad yw’n credu fod y diwydiant yn cael ei werthfawrogi “gan rai gwleidyddion.”
“Pan naethpwyd cymhariaeth yn ddiweddar ynglŷn â GDP a mae 1% o gyfraniad amaethyddiaeth a chefn gwlad i GDP – wel o’n i’n meddwl fod o’n gamarweiniol,” meddai.
Roedd hynny'n gyfeiriad at sylw'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn y Senedd ddechrau Gorffennaf, pan ddywedodd fod ffermio yn cael "cefnogaeth gref'" gan honni fod y diwydiant yn cyfrannu 1% tuag at y ffigyrau GDP, sef cyfanswm y nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.
“Sut bynnag da chi’n neud eich sỳms, mae'n na fwy na hynny.
“Nid arian ydy popeth naci.
“Mae'n rhaid i chi ystyried hefyd y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, cefn gwlad sy’n edrych ar ei ôl o.
“A’r sicrwydd ‘ma bod pobl medru byw a bod yng nghefn gwlad a chynnal cymdeithas.”
Mae’n dweud bod y diwydiant wedi wynebu nifer o heriau yn ystod y misoedd a blynyddoedd diwethaf a bod “rhaid ‘neud yn siŵr bod yr amaethwyr yn hapus” gydag unrhyw newidiadau sydd yn cael eu gwneud.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwrando ar ffermwyr, ac yn canolbwyntio ar ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau amaethyddol.
'Braint'
Dywedodd Dei Tomos fod agor y sioe yn Llanelwedd eleni yn “arbennig” ac yn “fraint” iddo.
“Dwi wedi gweithio ym myd amaeth fel gohebydd, newyddiadurwr, cynhyrchydd rhaglenni ers dros ugain mlynedd,” meddai.
“Mae’r ffaith eu bod nhw wedi cydnabod mod i ‘di gwneud rhywbeth yn ystod y cyfnod hwnnw yn golygu lot fawr i mi.”