
'Anrhydedd fawr' i athrawes ennill ysgoloriaeth Leah Owen
Athrawes sydd hefyd yn gyfeilydd gyda chorau lleol sydd wedi ennill ysgoloriaeth er cof am Leah Owen eleni.
Elin Rhys Owen o Gerrigydrudion yw ail enillydd y wobr.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd gan deulu'r diweddar Leah Owen a gan Gerdd Cydweithredol Sir Ddinbych y llynedd.
Roedd Leah Owen yn gantores, cyfansoddwr ac artist recordio. Yn ogystal â hynny roedd yn athrawes gerddoriaeth ac fe wnaeth hi fentora cannoedd o blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd.
Dywedodd Elin Rhys Owen ei bod hi'n "anrhydedd fawr" i ennill y wobr a bod ganddi edmygedd tuag at waith Leah Owen ers amser.
Gweithio yn Ysgol Pen Barras ers dros bum mlynedd mae Elin. Yno mae'n cyfeilio ar gyfer côr yr ysgol ac yn helpu i addysgu'r unawdwyr ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod bob blwyddyn.
'Braint'
Mae hi hefyd yn gyfeilydd gyda chorau lleol Côr Rhuthun ac Aelwyd Llangwm.
Mae'n dweud iddi gyfarfod Leah sawl gwaith yn Ysgol Pen Barras pan oedd hi yn dod yno ar gyfer gwneud prosiectau addysgu.
"Roedd ei cherddoriaeth yn ddigymar. Roeddwn i bob amser yn teimlo ei bod yn fraint go iawn gallu ei chyfarfod, gwrando arni'n canu a gwylio hi’n mentora ein disgyblion ifanc a oedd wedi'u swyno'n llwyr gan ei cherddoriaeth," meddai.

Mae'r ysgoloriaeth flynyddol yn galluogi athro neu ddisgybl Blwyddyn 11 a hŷn o Sir Ddinbych i fynd ar gwrs blynyddol dan arweiniad Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.
Bwriad y cwrs yw hyrwyddo, cefnogi ac annog ymarfer Cerdd Dant. Roedd Elin yn adnabod y person ddaeth i'r brig y llynedd, Lona Meleri Jones sydd yn athrawes gerddoriaeth a drama yn Ysgol Glan Clwyd.
"Roeddwn i mor falch dros Lona pan enillodd y llynedd ac yn falch o'r holl waith mae hi wedi'i wneud ym maes cerddoriaeth, ond doeddwn i byth am eiliad wedi dychmygu y byddwn i'n derbyn braint o'r fath fy hun.
"Mae'n anrhydedd fawr ac rwy'n teimlo'n freintiedig i gael fy ystyried hyd yn oed. Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â dyfarnu'r ysgoloriaeth hon," meddai.
Prif Lun: Rick Matthews
Llun Leah Owen: Iolo Penri