Rhybudd melyn am daranau ar gyfer ardaloedd yng Nghymru

Storm

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am gawodydd trwm a tharanau ar gyfer rhannau o Gymru.

Daw'r rhybudd i rym rhwng 11:00 bore dydd Llun a 21:00 nos Lun.

Fe allai rhai ardaloedd yng Ngwynedd, Sir Conwy, Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Powys gael eu heffeithio.

Mae'n bosib y bydd rhwng 30-50 mililitr o law hefyd yn disgyn yn yr ardaloedd yma.

Y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd yw y gallai'r tywydd achosi llifogydd ac amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. 

Maent hefyd yn dweud y gallai cyflenwadau trydan gael eu heffeithio. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.