Alun Wyn Jones wedi ei benodi’n Gyrnol Anrhydeddus y Cymry Brenhinol

Cyrnol Alun Wyn Jones

Mae cyn-gapten rygbi Cymru a’r Llewod Alun Wyn Jones wedi ei benodi yn Gyrnol Anrhydeddus 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol.

Cafodd y penodiad ei wneud gan y Brenin Charles III. 

Yn ei rôl fel Cyrnol Anrhydeddus, dywedodd y Fyddin y bydd Alun Wyn Jones yn gwasanaethu fel “llysgennad dros Gymru, gan ysbrydoli cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol o’r Cymry Brenhinol gyda’i gyfoeth o brofiad a’i hygrededd arweinyddiaeth”.

Dywedodd Alun Wyn Jones, a fydd yn gwisgo gwisg filwrol yn y rôl hon, ei fod yn “llawn  balchder ac yn wylaidd”, yn ogystal â “braidd yn bryderus”.

“Daeth fy mhryder o’r cyfrifoldeb a deimlais wrth wisgo’r crys coch a phopeth sy’n dod gyda chynrychioli ein cenedl," meddai.

“Mae’r ffaith bod gan bersonél sy’n gwasanaethu gyda’r 3ydd Bataliwn swyddi dyddiol hefyd wedi sbarduno ymwybyddiaeth bod Milwyr Wrth Gefn o’n cwmpas ym mhobman mewn bywyd sifil.

“Ie, bydd yr iwnifform y byddaf yn ei wisgo yn y rôl hon yn wahanol iawn i’r hyn rwy’n gyfarwydd ag ef, ond un y byddaf yr un mor falch o’i wisgo ag unrhyw grys yn fy ngyrfa chwarae a chynrychioli 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a Chymru.”

Dywedodd yr Is-gyrnol Mark Adams, Swyddog Rheoli 3ydd y Cymry Brenhinol: “Mae gan Alun Wyn hanes o wasanaethu ei wlad ac mae ganddo rinweddau arweinyddiaeth a gydnabyddir yn eang – alla i ddim meddwl am berson mwy addas i ennyn brwdfrydedd, cymhelliant ac ysbrydoliaeth y bataliwn nag ef.

“Mae’n wir yn ymgorfforiad o werthoedd a safonau’r Royal Welsh ac rwy’n dymuno’r gorau iddo yn ei rôl newydd.”

Image
Cyrnol Alun Wyn Jones
Fe fydd gan Alun Wyn Jones rôl anrhydeddus i ysbrydoli milwyr wrth gefn

Yn ôl y Fyddin fe fydd dylwetswyddau Alun Wyn Jones yn cynnwys “ymweld â sesiynau hyfforddi, mynychu digwyddiadau seremonïol a manteisio ar gyfleoedd i ganmol ac atgyfnerthu gwaith da, ymrwymiad a gwerth Milwyr Wrth Gefn a'r gwaith maen nhw'n ei wneud”.

Alun Wyn Jones yw’r chwaraewr rygbi sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau mewn hanes, gyda 170 o gapiau rhwng 2006 a 2023.

Mae’n un o ddim ond pedwar chwaraewr i gael eu dewis ar bedair taith gyda’r Llewod Prydeinig ac Iwerddon, gan ennill 12 cap rhwng 2009 a 2021.

Fe enillodd Alun Wyn Jones y Chwe Gwlad bump o weithiau, tair Camp Lawn a phedair Goron Driphlyg yn ystod ei yrfa gyda Chymru.

Fe dderbyniodd anrhydedd yr OBE yn 2020.Ers ymddeol o Rygbi Rhyngwladol, mae Alun Wyn wedi gwasanaethu fel Ymgynghorydd Strategol i Brifysgol Abertawe, gyda ffocws ar berfformiad, gwydnwch ac arweinyddiaeth.

Mae hefyd yn sylwebydd teledu rheolaidd ac mae wedi dechrau ei gwmni diodydd ei hun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.