Dim camau pellach yn erbyn Kneecap ar ôl perfformiad Glastonbury
Mae’r heddlu wedi gollwng ymchwiliad troseddol i berfformiad y triawd o rapwyr o Belfast, Kneecap, yng Ngŵyl Glastonbury.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf na fyddant yn cymryd “unrhyw gamau pellach” ar y sail nad oes “tystiolaeth ddigonol i awgrymu gobaith gwirioneddol o euogfarn am unrhyw drosedd”.
Cyhoeddodd yr heddlu yr ymchwiliad ym mis Mehefin ar ôl i swyddogion adolygu lluniau fideo a recordiadau sain o setiau Kneecap a'r deuawd Bob Vylan yn yr ŵyl yng Ngwlad yr Haf.
Ddydd Gwener, postiodd y grŵp sgrinlun i’r cyfryngau cymdeithasol o e-bost a oedd yn ymddangos fel pe bai gan uwch swyddog ymchwilio.
Dywedodd yr e-bost: “Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth, rwyf wedi penderfynu na fydd unrhyw gamau pellach.”
Yng nghapsiwn eu post, dywedodd Kneecap, sy’n cynnwys Liam Óg Ó hAnnaidh, Naoise Ó Caireallain, a JJ Ó Dochartaigh ei fod yn ddiwedd ar ymdrech at “blismona gwleidyddol”.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod nhw wedi ceisio cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac yna wedi penderfynu peidio â chymryd camau pellach.
“Mae ymholiadau’n parhau i gael eu cynnal mewn perthynas â sylwadau ar wahân a wnaed ar y llwyfan yn ystod perfformiad Bob Vylan,” medden nhw.