Casnewydd a chlwb o Wlad y Basg yn cydweithio i gofio plant ddaeth i Gymru o Sbaen

Cit Casnewydd / Athletic Bilbao

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi gweithio gyda chlwb Athletic Bilbao i ryddhau cit i gofio'r 56 o blant wnaeth ddod i Gasnewydd i ffoi rhag Rhyfel Cartref Sbaen.

Dddydd Gwener roedd Casnewydd wedi cyhoeddi eu cit oddi cartref sydd yr un lliwiau â chit Athletic Bilbao o Wlad y Basg.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn 1937 cafodd tua 4,000 o blant o Wlad y Basg eu cludo i Brydain er mwyn ffoi rhag bomiau oedd yn disgyn ar y rhanbarth yng ngogledd Sbaen.

Roedd 56 o'r plant wedi eu symud i Gaerllion yng Nghasnewydd, sydd dafliad carreg o stadiwm y clwb, Rodney Parade.

Dywedodd Johana Ruiz-Olabuenaga, pennaeth Ardal Gymdeithasol Clwb Athletic Bilbao: "Mae menter Casnewydd yn wych ac yn mynd y tu hwnt i bêl-droed. Mae'n gysylltiedig â dau agwedd sylfaenol i'n clwb - hunaniaeth ac atgofion.

“Roedd pobl y Basg yn ddyledus i bobl Cymru am eu lletygarwch yn ystod y rhyfel. Mae'r crys coch a gwyn hwn yn deyrnged i 'Blant Basg '37' ac yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng Euskal Herria a Chymru."

Image
Y cit at strydoedd Gwlad y Basg. (Llun: CPD Casnewydd)
Y cit at strydoedd Gwlad y Basg. (Llun: CPD Casnewydd)

'Mwy 'na gêm'

Roedden y plant dan ofal a gwarchodaeth y gymuned leol, gan gynnwys yn fwyaf amlwg Maria Fernandez, oedd yn wreiddiol o Bilbao ac a oedd wedi ymgartrefu yng Nghymru.

Chwaraeodd pêl-droed ran sylweddol wrth gynnwys y plant yn y gymuned hefyd. Cafodd tîm lleol Casnewydd ei ffurfio, a ddaeth yn adnabyddus fel Basque Boys FC.

Mae llawer o'r plant ddaeth i Gymru yn 1937 wedi aros yng Nghasnewydd ac wedi magu eu teuluoedd eu hunain yn yr ardal fel rhan o'r gymuned leol.

Bydd cynrychiolwyr o Gasnewydd, yn cynnwys un o ddisgynyddion y plant a arhosodd yn ardal Casnewydd ar ôl y rhyfel, hefyd yn cyflwyno crys i Athletic Bilbao ar gyfer amgueddfa eu clwb, tra bod digwyddiadau yn y dyfodol hefyd wedi'u cynllunio fel rhan o'r bartneriaeth newydd.

Bydd y crys hefyd yn cynnwys enwau'r holl blant a'r brif bobl a chwaraeodd ran yn y stori. Mae baneri'r ddwy genedl ynghyd â sloganau yn y Gymraeg, iaith Euskera, a'r Saesneg i gyd i'w cael drwy gydol manylion dylunio'r crys.

Ychwanegodd cadeirydd Casnewydd, Huw Jenkins: “Mae'r cydweithrediad hwn i gydnabod 'Plant Basg '37' yn crynhoi natur ofalgar pobl Casnewydd ac, yn yr achos hwn, Caerllion, yn benodol.

“Mae pêl-droed yn fwy na gêm yn unig; mae'n ymwneud â'r clwb yn gwasanaethu'r gymuned ac yn cydnabod y daioni mewn pobl, y mae llawer ohonynt yn rhan o'n cefnogwyr cynyddol. Rwy'n credu bod y cit oddi cartref newydd hwn yn helpu i gydnabod ac amlygu hynny.

“Ac fel cenedl Gymreig falch ein hunain, rydym yn rhannu llawer o nodweddion â Gwlad y Basg a'i thraddodiadau, ac rydym wrth ein bodd yn cydweithio ac yn meithrin cysylltiadau â chlwb mor wych ag Athletic Bilbao."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.