Cyngor yn prynu fferm er mwyn 'cadw pobl ifanc yn yr ardal'
Mae Cyngor Ceredigion wedi prynu fferm gyda'r bwriad o "gadw pobl ifanc yn yr ardal" drwy gynnig cyrsiau galwedigaethol.
Cyhoeddodd y cyngor ddydd Gwener eu bod wedi prynu fferm Llettytwppa, sydd yn ffinio â champws Prifysgol Llambed.
Roedd y fferm ar werth am £1.8 miliwn, ond nid yw'r cyngor wedi datgelu faint yn union maen nhw wedi talu amdano.
Fe wnaeth y cyngor gadarnhau bod prynu'r fferm yn bosib oherwydd benthyciad gan Lywodraeth Cymru.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Brifysgol y Drindod Dewi Sant gyhoeddi byddai 200 o swyddi yn Llanbedr Pont Steffan yn dod i ben a bod cynnal seilwaith y campws "ddim yn gynaliadwy."
Cyrsiau amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu yn cael eu cynnig ar y campws.
'Denu pobl ifanc'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Bryan Davies mai'r bwriad yw cynnig cyfleoedd i gadw pobl ifanc yn y sir.
"Dwi'n gwybod o brofiad personol ein bod ni'n colli lot o bobl ifanc, nid yn unig i siroedd arall, ond tu draw i'r ffin hefyd," meddai.
"Mae hwnna'n effeithio'r ethos a'r economi leol.
"Os allwn ni gynnal y cyrsiau hyn, nid yn unig ydyn ni'n cadw pobl ifanc, ni'n mynd i ddenu pobl ifanc o ardaloedd arall, ond hefyd yn helpu crefftwyr yr ardal i gael yr hyfforddiant perthnasol, er mwyn cadw'r busnesau yna i fynd."
Bydd sawl cyfarfod cyhoeddus yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf i drafod y cynlluniau, meddai'r brifysgol.
Dywedodd arweinydd cyngor y brifysgol, Emlyn Dole: "Ni'n hollol ymwybodol o arwyddocad y campws yma a'r brifysgol yng nghyd-destun addysg uwch yng Nghymru, yr elfen hanesyddol, ac mae yna barch aruthrol i hynny," meddai.
"Ond hefyd y sylweddoliad yna o'r economi leol, ein cefnogaeth ni i'r dref a'r economi wledig, ac fel mae hynny yn gweithio yng nghyd destun y campws a'r addysg sy'n cael ac fydd yn cael ei barhau i ddysgu yma.
"Mae hynny yn wirioneddol gynhyrfus i ni fel prifysgol."