Keir Starmer yn gwahardd gwrthryfelwyr Llafur dros dro
Mae Syr Keir Starmer wedi gwahardd aelodau seneddol Llafur sydd wedi gwrthryfela yn erbyn ei bolisïau.
Yn ôl adroddiadau, Brian Leishman, Neil Duncan-Jordan a Chris Hinchcliff yw'r aelodau hynny.
Pleidleisiodd y tri yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio'r wladwriaeth les yn gynharach y mis hwn.
Cafodd y tri eu hethol am y tro cyntaf adeg yr Etholiad Cyffredinol y llynedd.
Yn sgil y gwaharddiad, bydd y tri yn eistedd fel aelodau annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mae swyddfa Mr Leishman – sy'n cynrychioli Alloa a Grangemouth yn yr Alban – wedi cadarnhau ei fod wedi ei wahardd dros dro.
Mewn datganiad, dywedodd ei fod yn “ aelod Llafur balch” a bod ei ymrwymiad i'r blaid yn parhau.
“Rydw i eisiau parhau i fod yn Aelod Seneddol Llafur a chyflwyno'r newidiadau cadarnhaol y mae nifer o etholwyr yn crefu amdanyn nhw,” ychwanegodd.
“Rydw i wedi pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth oherwydd fy mod i eisiau cynrychioli pobl yn effeithiol, a bod yn llais ar gyfer cymunedau ar hyd a lled Alloa a Grangemouth.
“Rydw i'n credu'n gryf, nad fy swyddogaeth fel AS yw gwneud bobl yn dlotach.”