Carcharu dau ddyn am dorri coeden enwog

Euog Sycamore Gap

Mae dau ddyn yn eu tridegau wedi cael eu carcharu am fwy na phedair blynedd ar ôl i lys eu cael yn euog o dorri coeden enwog y Sycamore Gap yn Northumberland ym Medi 2023.

Yn Llys y Goron Newcastle ddydd Mawrth, cafodd Daniel Graham, 39 oed, ac Adam Carruthers, 32 oed, eu dedfrydu i garchar am bedair blynedd a thri mis am achosi difrod troseddol.

Roedd y ddau wedi bod yn y ddalfa ers i'w hachos ddod i ben fis Mai.  

Wrth eu dedfrydu, dywedodd y barnwr Mrs Ustus Lambert ei bod yn sicr mai Adam Carruthers dorodd y goeden a bod Daniel Graham wedi gyrru i'r safle a ffilmio'r weithred. 

Roedd y ddau felly, meddai hi, yn gyfrifol am y difrod troseddol.

Cafodd datganiad gan Andrew Poad, rheolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei ddarllen yn y gwrandawiad dedfrydu. 

“Does dim modd cael coeden yn lle'r un eiconig hon

“Tra bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gofalu amdani, roedd hi'n berchen i'r bobl,” meddai. 

Ychwanegodd Mr Poad: “Mae teimlad o golled a dryswch wedi ei deimlo ar hyd a lled y byd 

“A'r cwestiwn, pam y byddai unrhyw un yn gwneud hyn i goeden mor bert mewn safle mor arbennig 

“Mae e y tu hwnt i ddealltwriaeth.”

'Trafferthion'

Dywedodd Andrew Gurney a oedd yn cynrychioli Adam Carruthers, mai "twpdra meddwol" oedd ar fai  gan ychwanegu y bydd yn  difaru am weddill ei oes. 

Yn amddiffyn Daniel Graham, dywedodd Chris Knox ei fod yn "ddyn a oedd wedi profi trafferthion yn ei fywyd."

Dywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos fod y dynion wedi gyrru am 40 munud o ardal Caerliwelydd yn ystod Storm Agnes a thorri’r goeden mewn cae, gydag un ohonyn nhw’n ffilmio’r weithred ar ffôn symudol.

Dywedodd yr erlyniad hefyd eu bod nhw wedi cymryd darn o'r goeden fel tlws sydd heb ei ddarganfod ers diwrnod y drosedd.

Fe gafodd rhan o wal Rufeinig ei dinistrio hefyd.

Ar y pryd, dywedodd Rob Ternent, prif arddwr Gardd Alnwick yn Northumberland, y byddai'r goeden yn dechrau tyfu eto ond na fyddai "fyth yr un siâp na chystal â'r goeden wreiddiol”.

“Roedd tua 300 oed felly bydd yn cymryd amser hir i ddychwelyd i’r maint hwnnw. Mae’n drueni mawr,” meddai. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.