Kneecap yn ymestyn eu taith ac yn dychwelyd i Gaerdydd
Mae Kneecap wedi cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer "eu rhediad mwyaf o sioeau erioed" yn ôl y grŵp o Belfast, a byddan nhw yn dychwelyd i Gaerdydd fis Tachwedd.
Bydd y grŵp yn perfformio yng nghanolfan DEPOT ar 17 Tachwedd.
Mae'r grŵp wedi hawlio'r penawdau yn ddiweddar wedi i Liam Og O hAnnaidh, sy'n perfformio o dan yr enw Mo Chara, gael ei gyhuddo fis Mai o drosedd yn ymwneud â therfysgaeth ar ôl i faner yn cefnogi Hezbollah gael ei harddangos yn eu sioe yng Nghanolfan O2 yng ngogledd Llundain, fis Tachwedd 2024.
Yn ôl Kneecap, cafodd hynny ei dynnu o'i gyd-destun, ac mae Liam Og O hAnnaidh yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.
Wedi gwrandawiad llys yn Llundain fis Mehefin, cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.
Yn ogystal â'r sioe yng Nghaerdydd fis Tachwedd, mae'r triawd sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg a Saesneg yn paratoi i berfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog ganol Awst.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar wedi galw ar y trefnwyr i dynnu'r gwahoddiad yn ôl.
Daeth ei alwad wedi i fideo gael ei gyhoeddi lle mae'n ymddangos bod un o aelodau'r band yn dweud "The only good Tory is a dead Tory...kill your local MP" o lwyfan cyngerdd yn 2023.
Fis Mehefin, cyn iddyn nhw berfformio o flaen torf enfawr yng Ngŵyl Glastonbury, fe ddywedodd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer na fyddai’n “briodol” i’r grŵp berfformio yno oherwydd y cyhuddiad troseddol yn erbyn un o'r aelodau.
'Byddwn ni nôl'
Fore Mawrth, mae'r aelodau, Liam Og O hAnnaidh, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh wedi rhannu neges ar eu cyfrif Instagram yn cyhoeddi eu cyfres newydd o gyngherddau.
“Byddwn ni nôl fis Tachwedd ar hyd yr Alban, Lloegr a Chymru er mwyn chwarae yn ein rhediad mwyaf o sioeau erioed," medden nhw.
“Nid all y Prif Weinidog (Syr Keir Starmer) ein stopio ni… fe all e atal anfon bomiau i Israel ond stori arall yw honno …”
Mae'r grŵp wedi mynegi eu barn yn gyson yn erbyn ymosodiad Israel ar Gaza, ac maen nhw'n dadlau fod y sylwadau dadleuol amdanyn nhw yn rhan o ymgych. i'w pardduo, am eu bod yn cefnogi'r Palesteiniaid.
Perfformiodd Kneecap yn Aacdemi O2 Glasgow yn ddiweddar. Cafodd pob tocyn ei werthu o mewn 80 eiliad.
Roedden nhw i fod i berfformio yng ngŵyl TRNSMT yn Glasgow, ond cafodd hynny ei atal wedi i'r heddlu godi pryderon.