18 wythnos o garchar i ddyn am fwrw a gollwng ci ar lawr

15/07/2025

18 wythnos o garchar i ddyn am fwrw a gollwng ci ar lawr

Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu am 18 wythnos a’i wahardd rhag cadw anifeiliaid ar ôl iddo gael ei ffilmio yn bwrw a gollwng ci Jack Russell ar lawr.

Plediodd Cameron Lee Wilson, 18 oed, i un trosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Abertawe ar 9 Gorffennaf.

Clywodd y llys bod Wilson wedi cael ei ffilmio ar gamera cylch cyfyng yn Nhreforys ar 16 Mawrth eleni yn bwrw ci a'i ollwng ar lawr o uchder ei frest.

Jack Russell un oed o'r enw Casper oedd y ci, ac nid Wilson oedd ei berchennog.

Yn ogystal ag 18 wythnos o garchar cafodd Wilson ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd a bu'n rhaid iddo dalu costau o £400.

Image
Casper y ci
Casper y ci

'Poen a dioddefaint'

Mewn datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg, yn y fideo roedd y dyn yn “codi’r ci Jack Russell o dŷ ac yn cerdded cryn bellter yn ei gario, yna mae’n gosod ei goesau cefn i’r llawr ac yn ceisio rhoi pedair ergyd â grym i’w ben i ddechrau".

“Yna mae’n rhyddhau’r ci sy’n plygu i’r llawr wrth i Wilson wedyn daro’r ci saith gwaith i ardal y pen gyda digon o rym i symud y ci cyfan ar draws y llawr o ochr i ochr," meddai.

“Yn fy marn broffesiynol i, mae’r ci wedi cael ei daro sawl gwaith, yn fwriadol â grym, pob ergyd yn achosi poen a dioddefaint. Bydd y cwymp bwriadol o uchder i lawr concrit hefyd wedi achosi poen a dioddefaint i’r ci.”

Ar 2 Ebrill 2025, roedd Dirprwy Brif Arolygydd yr RSPCA Gemma Cooper wedi cyfarfod â’r ci oedd tua blwydd oed gyda’i berchennog.

Dywedodd DCI Cooper: “Roedd yn ddisglair ac yn effro ac nid oedd ganddo unrhyw anafiadau amlwg a dywedodd ei berchennog wrthyf mai Casper oedd ei enw.”

Yn dilyn y ddedfrydu, dywedodd y Dirprwy Brif Arolygydd Cooper: “Diolch byth na chafodd Casper ei anafu.

"Fodd bynnag, mae’n amlwg bod Casper wedi dioddef trwy’r ymosodiad hwn a bod yn rhaid iddo ddioddef niwed bwriadol diangen.

"Mae pob anifail yn haeddu cael ei drin â charedigrwydd ac nid yw cam-drin anifail yn dderbyniol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.