Image

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ddigwyddiad o drywanu yn ardal Trelluest (Grangetown) Caerdydd tua deg o'r gloch nos Lun.
Mae dyn 23 oed yn yr ysbyty ond dyw ei anafiadau ddim yn peryglu ei fywyd meddai'r llu.
Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i South Clive Street ac roedd y stryd a Clare Road ar gau am gyfnod yn ystod oriau mân fore dydd Mawrth.
Roedd dau gar heddlu yn yr ardal a thâp wedi ei roi o amgylch rhan o Clive Street fore Mawrth.
Mae'r llu wedi dweud bod eu hymholiadau yn parhau.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.