Cyhoeddi cynllun ffermio newydd i Gymru wedi 'mwy na 12 mis o waith paratoi dwys'
Fe fydd cynllun ffermio newydd i Gymru yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth wedi "mwy na 12 mis o waith paratoi dwys."
Ers saith mlynedd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cael ei gyflwyno yn 2026.
Mae elfennau o’r cynllun, gan gynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed, wedi bod yn ddadleuol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl protest wedi cael ei chynnal yn erbyn elfennau o'r cynllun, gan gynnwys 5,000 o bobol yn protestio y tu allan i’r Senedd ym mis Chwefror 2024.
Flwyddyn a hanner ers hynny fe fydd Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn cyflwyno'r cynllun ddydd Mawrth.
Dywedodd mai'r polisi yw'r "cynllun cywir" i Gymru a'i fod yn "gobeithio y bydd yn cael ei dderbyn yn dda".
Ond mae'n cydnabod bydd "ambell berson" yn dymuno i'r cynllun fod yn wahanol.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yma yn dod yn lle cymorthdaliadau o'r cyfnod pan oedd y DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r mwyafrif o ffermwyr yn ddibynnol iawn ar y taliadau yma gyda thua 67% o incwm ffermydd Cymru yn dod o gymorthdaliadau yn 2020-21.
'Cynllun ar gyfer pobl Cymru'
Wrth gynllunio'r cynllun mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda arweinwyr y diwydiant ffermio ac ymgyrchwyr amgylcheddol.
Ynghyd â chefnogi ffermwyr, bwriad arall y cynllun ydy helpu'r llywodraeth i gyrraedd eu targedau hinsawdd a natur 2030.
Dywedodd Mr Irranca-Davies fod y cynllun terfynol yn "ganlyniad mwy na 12 mis o waith paratoi dwys" yn cynnwys trafodaethau gyda undebau ffermio, sectorau cig, da byw a llaeth yn ogystal â grwpiau amgylcheddol "i gael y cydbwysedd".
Ychwanegodd y bydd yn "wahanol i unrhyw beth arall sydd wedi'i gyflwyno yn y DU".
"Bydd yn gynllun fferm gyfan ac yn gynllun cenedl gyfan ar gyfer pobl Cymru," meddai.
"Maen nhw eisiau gweld ffermio sy'n cynhyrchu bwyd da i safonau lles anifeiliaid uchel ac sydd hefyd yn gwneud y peth iawn i'r amgylchedd."
Nid yw'r gweinidog wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiad effaith o'r fersiwn derfynol gan ddweud bod y gwaith yn parhau.
Tair haen
Bydd gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o leiaf dair haen, sef taliad cyffredinol, haen opsiynol a thaliad cydweithredol
Dan y daliad cyffredinol, bydd rhaid i ffermwyr gytuno i 12 o ofynion gan gynnwys cynllunio ar gyfer gwella iechyd y pridd, cynnal cynefinoedd a mynd ar gyrsiau datblygiad proffesiynol.
Mae hefyd haen opsiynol, sydd â'r bwriad o ychwanegu at incwm ffermydd drwy gynnig gwaith amgylcheddol pellach, gan gynnwys plannu coed i adfer mawn.
Fe fydd hefyd taliad cydweithredol ar gael yn y dyfodol i gefnogi ffermwyr sy'n gweithio ar y cyd ar brosiectau ar draws tirweddau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ei chynllun yn "creu partneriaeth rhwng ffermwyr a phobl Cymru er mwyn cefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy tra'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ac adfer natur".
Roedd y cynlluniau wedi'u "symleiddio yn dilyn ymgynghori helaeth â'r diwydiant amaeth, gyda'r bwriad o fod yn hygyrch ar gyfer pob math o fferm, gan gynnwys tenantiaid a newydd ddyfodiaid i'r sector."