Swyddi yn y fantol ar ôl i hosbis gau am gyfnod ar Ynys Môn
Mae swyddi yn y fantol meddai hosbis sydd wedi gorfod cau safle ar Ynys Môn dros dro.
Mae gan Hosbis Dewi Sant safleoedd yng Nghaergybi, Bangor a Llandudno.
Dywedodd yr elusen eu bod nhw’n cadarnhau “gyda chalon drom” y bydd eu safle yng Nghaergybi yn cau dros dro o fis Hydref ymlaen.
Bydd cleifion a theuluoedd sydd yn derbyn gofal yno bellach yn cael eu cefnogi ganddynt yn safleoedd Bangor a Llandudno yn lle hynny.
Daw’r penderfyniad i gau’r safle ym Môn am gyfnod yn sgil “nifer o ffactorau,” meddai’r elusen.
“Mae'r cyfuniad o gostau cynnal cynyddol ac incwm is wedi golygu nad yw’n bosib yn economaidd i barhau i gynnal pob un o’r tri safle – er gwaethaf ein hymdrechion.”
Mae hynny’n golygu y gallai pobl colli swyddi, meddai’r elusen.
Asesu mewn 12 mis
Maent yn dweud bod “nifer o swyddi clinigol ac anghlinigol yn y fantol ac mae ymgynghoriad llawn ar y gweill ar hyn o bryd.”
Byddant yn asesu’r penderfyniad i gadw’r safle ar gau mewn 12 mis.
Yn ystod y cyfnod hwnnw mae disgwyl iddynt ganolbwyntio ar “gryfhau” eu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n parhau yn “hollol ymrwymedig” i sicrhau bod pobl Ynys Môn, Conwy a Gwynedd yn derbyn y gofal diwedd oes y maent yn eu haeddu.
Dywedodd yr elusen eu bod yn cydnabod y bydd y penderfyniad yn creu pryder a siom i nifer fawr o bobl ond y bydd yn caniatáu iddynt ddod o hyd i ddatrysiad hirdymor.
Ni fydd swyddi yn safleoedd Bangor a Llandudno yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad.