Ail gyflwyno grantiau ar gyfer ceir trydan newydd

car trydan yn gwefru

Bydd grantiau ar gyfer ceir trydan newydd yn cael eu hail gyflwyno, ar ôl i'r cynllun gael ei ddileu gan y llywodraeth Geidwadol flaenorol yn San Steffan ym Mehefin 2022.  

Mae Adran Drafnidiaeth y DU wedi cyhoeddi y bydd modd i yrwyr sicrhau hyd at £3,750 o ostyngiad, wrth brynu car trydan newydd.

Nod y llywodraeth Lafur yw annog mwy o yrwyr i gefnu ar gerbydau disel neu betrol a phrynu ceir trydan.

Bydd y grantiau ar gyfer cerbydau trydan sydd yn werth hyd at £37,000.

Yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, mae 33 model newydd ar gael bellach sy'n werth llai na £30,000.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi addo gwahardd gwerthiant ceir a faniau newydd disel neu betrol o 2030.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Heidi Alexander: “Bydd y grant EV hwn, nid yn unig yn galluogi pobl i gadw mwy o'u harian yn eu pocedi, ond bydd hefyd yn cynorthwyo'r diwydiant moduro i elwa ar un o gyfleoedd mwyaf yr 21 ganrif. 

“A gyda mwy na 82,000 o safleoedd gwefru cyhoeddus bellach ar gael ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, rydym wedi adeiladu'r isadeiledd sydd ei angen er mwyn i deuluoedd gael hyder i ddewis cerbydau trydan.”

Bydd y grantiau newydd yn cael eu hariannu drwy gynllun newydd gwerth £650 miliwn. 

Bydd y cerbydau sydd fwyaf llesol i'r amgylchedd ym mand un, gyda'u perchnogion yn medru hawlio grant hyd at £3,750.

Bydd perchnogion cerbydau sydd ym mand dau yn medru hawlio hyd at £1,500.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ym maes trafnidiaeth, yr Aelod Seneddol Gareth Bacon, mae'r llywodraeth yn "gorfodi teuluoedd i droi at gerbydau trydan drytach, pan nad yw'r Deyrnas Unedig yn barod ar gyfer hynny.”

Ychwanegodd y bydd ail gyflwyno'r grantiau yn arwain at “fwy o boen i drethdalwyr.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.