'Dim digon o dai' i bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd medd elusen

'Dim digon o dai' i bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd medd elusen

Mae'n broblem ers degawdau.
 
Erbyn llynedd roedd 1 o bob 5 o bobl gafodd gymorth rhag mynd yn ddigartref yng Nghymru rhwng 16 a 25 oed.
 
Mae 'na lu o fudiadau mawr a bach yn ceisio helpu ond maen nhw dan bwysau.
 
Dair blynedd nol, cafodd Ania loches a chymorth gan Gisda, Gwynedd.
 
"Honestly, mae Gisda wedi safio bywyd fi a dw i'n meddwl hynna.
 
"I don't say that lightly.
 
"Pan wnes i first symud i Gisda o'n i'n stryglo efo iechyd meddwl.
 
"O'n i di bod yn sofa syrffio, o'n i di bod yn ddigartref dw i 'di cysgu mewn bus stop.
 
"O'n i'n stryglo efo drugs a jyst cael rhywle stable i fyw.
 
"Rhywle sy'n ty fi lle dw i'n gallu teimlo'n saff a lle dw i'n gallu anadlu."
 
Mae 'na 40 mlynedd ers i Gisda gael ei sefydlu a hynny'n cael ei nodi yn y digwyddiad yma yng Nghaernarfon.
 
Person ifanc digartref yn torri mewn i ganolfan ieuenctid yn y dref oedd cychwyn y cyfan.
 
Mae'r angen a'r galw wedi cynyddu ers hynny.
 
Yn y flwyddyn ddiwethaf mae'r elusen wedi helpu 764 o bobl.
 
Naid o dros 20% ar y flwyddyn gynt.
 
"Yn anffodus dydy niferoedd y bobl ifanc ddigartref ddim yn mynd lawr.
 
"Does dim digon o dai i bobl ifanc symud yn eu blaenau.
 
"Mae costau tai a chostau rhentu ar i fyny, mae'n anodd."
 
Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i helpu unrhyw un sy'n wynebu bod yn ddigartref.
 
Mae Cyngor Gwynedd yn un o'r cyrff sy'n ariannu Gisda.
 
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor bod nhw'n falch o'r gwasanaeth mae Gisda yn eu darparu.
 
Mae cynllun gweithredu tai'r cyngor yn cynnwys ceisio cynyddu nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael.
 
Gwyddwn bod digartrefedd yn llawer iawn mwy na thai meddai'r llefarydd.
 
Un sy'n cytuno a hynny ydy Zack.
 
"Ar ol cwpl o fisoedd mae'n cymryd amser i deimlo'n saff yn rhywle newydd a phobl newydd.
 
"O'n i angen gweithio ar hwnna.
 
"Reit sydyn oedd yr iselder yn cychwyn troi mewn i curiosity o ran lle fedra i fynd mewn bywyd a'r gwahaniaeth fedra i wneud.
 
"Wrth dyfu fyny efo Gisda dw i'n gweld yr angen sydd.
 
"Mae plant ifanc angen rhywun i wrando arnynt i fod yn onest.
 
"Oedd Gisda'n gallu gwneud hynna i fi."
 
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi rhoi £7 miliwn eleni i geisio atal digartrefedd ymhlith yr ifanc a'u helpu i fyw yn annibynnol a bod eu bil digartrefedd diweddar wedi eu seilio ar arbenigedd y rhai sydd wedi byw yn ddigartref a llawer o'r rheiny yn ifanc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.