Southend: Pedwar person wedi marw ar ôl damwain awyren

Maes Awyr Southend

Mae pedwar o bobl wedi marw ar ôl damwain awyren ym maes awyr Southend yn Llundain. 

Fe ddywedodd Heddlu Essex eu bod wedi eu galw toc cyn 16:00 brynhawn dydd Sul wedi "adroddiadau o wrthdrawiad oedd yn ymwneud ag un awyren 12 metr" yn y maes awyr. 

Mae asiantaeth newyddion PA bellach wedi dweud eu bod ar ddeall fod pedwar o bobl wedi marw ar ôl y digwyddiad. 

Roedd lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos mwg du a thân ac fe wnaeth rhai llygad dystion ddisgrifio gweld "pelen o dân" yn yr awyr.

Mae Zeusch Aviation, sydd wedi eu lleoli yn yr Iseldiroedd wedi cadarnhau bod eu hawyren SUZ1 "yn gysylltiedig â'r ddamwain" ym maes awyr Southend. 

Yn ôl eu datganiad mae'r cwmni yn "cefnogi'r awdurdodau gyda'u hymholiadau" ac mae eu "meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio."

Roedd yr awyren wedi hedfan o brif ddinas Groeg, Athens i Pula yng Nghroatia ddydd Sul cyn dod i Southend. Y bwriad wedyn oedd y byddai yn dychwelyd i Lelystad yn yr Iseldiroedd nos Sul.

Mae pob hediad awyren wedi eu canslo yn y maes awyr ac mae pobl sydd fod i deithio dydd Llun yn cael eu cynghori i gysylltu gyda'u cwmni hedfan.

Dywedodd maes awyr Southend yn gynharach eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio" a'u bod yn bwriadu ail gychwyn hedfan awyrennau cyn gynted ag sy'n bosib. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.