
'Torcalonnus': Tân yn dinistrio gwesty a bwyty ym Mhenrhyn Gŵyr
Mae perchnogion bwyty enwog yn Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn dweud bod eu calonnau wedi torri ar ôl i dân ddinistrio to'r adeilad dros nos.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu galw i westy a bwyty The Worm's Head, ychydig wedi canol nos.
Mae lluniau yn dangos y to wedi ei ddinistrio yn llwyr.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd perchnogion y bwyty ei bod yn anodd amgyffred yr hyn sydd wedi digwydd.
"Nid ydym yn gwybod beth i'w ddweud na sut i brosesu pethau yn dilyn y tân nos Lun.
"Nid ydym ni'n gwybod sut y byddwn yn ail afael ynddi yn y dyfodol agos ond byddwn yn dychwelyd yn gryfach.
"Mae mor dorcalonnus i'n teulu gweld 25 mlynedd o waith caled yn cael ei ddinistrio mewn 30 munud.
"Rydym yn diolch i'r gwasanaeth tân a'r heddlu am ddod mor sydyn ac i Sarah a Chris o The View Rhosili am agor mor hwyr yn y nos a darparu cefnogaeth i ni."

Mae'r bwyty a gwesty wedi ei leoli ger Bae Rhosili, gyda golygfeydd o'r traeth.
Dyw achos y tân ddim yn glir, ac mae'r heddlu'n ymchwilio.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru bod criwiau o orsafoedd Reynoldston, Gorllewin Abertawe, Port Talbot, Treforys, Canol Abertawe a Gorseinon wedi cael eu galw i'r gwesty.
"Wedi i'r tân gael ei ddifodd, bu'r criwiau yn monitro'r mannau a oedd yn dal yn dwym ... gyda'r criwiau olaf yn gadael am 09:32.
"Mae'r adeilad wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol," meddai'r llefarydd.