Prif sgoriwr Cymru i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Jess Fishlock

Mae prif sgoriwr Cymru Jess Fishlock wedi cyhoeddi ei bod am ymddeol o bêl-droed rhyngwladol. 

Fishlock ydy'r chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i ennill 150 o gapiau dros ei gwlad, gan hefyd dorri'r record am y nifer o goliau i Gymru. 

Mae Fishlock wedi sgorio 48 o goliau rhyngwladol yn ystod ei gyrfa, sy'n cymharu gyda phrif sgoriwr y dynion, Gareth Bale gyda 41 o goliau.

Sgoriodd Fishlock ei gôl gyntaf dros Gymru yn 2009 ac mae hi bellach wedi chwarae mewn 165 o gemau.

Hi ydy'r fenyw hynaf erioed i sgorio ym mhencampwriaethau Ewrop y menywod, wedi iddi sgorio yn erbyn Ffrainc yn ystod Euro 2025 dros yr haf, a hithau yn 38 oed. 

Mae'n chwarae fel chwaraewr canol cae i dîm Seattle Reign yn America, ac mae wedi chwarae dros glybiau ar draws y byd, gan gynnwys Glasgow, AZ Alkmaar yn yr Iseldiroedd, Melbourne Victory a Melbourne City yn Awstralia, a FFC Frankfurt yn Yr Almaen.

Mewn datganiad dywedodd Jess Fishlock ei bod hi'n "diolch am bopeth" a'n "diolch i’m gwlad".

"Mae’r daith y mae pêl-droed menywod yng Nghymru wedi’i chymryd wedi bod yn anhygoel, a bydd y gêm m’ond yn cario ymlaen i dyfu," meddai.

"Rwy’n gweld cymaint o ferched ifanc yn chwarae pêl-droed ledled Cymru erbyn hyn, ac mae’r dyfodol yn ddisglair i’n gwlad.

"I bawb sy’n rhan o dyfu’r gêm ar y lefelau lawr gwlad ac elît yng Nghymru, mae’n hollbwysig bod y gefnogaeth yn parhau, ac na gallwn ni sefyll yn llonydd am eiliad. Dim ond gyda’n gilydd y gallwn ni gyflawni llwyddiant.

"Bydd dyfodol y crys rhif 10 mewn lle gwell nag oedd hi yn 2006, ac honno yw fy nghyflawniad mwyaf oll.

"Ni allaf aros i weld beth fydd sêr y dyfodol ein Tîm Cenedlaethol yn gwneud. Gobeithiaf y byddwch i gyd yn eu cefnogi nhw fel y gwnaethoch chi fy nghefnogi i, ac ni allaf aros i ymuno â chi i gyd yn y gemau ac i roi ein cefnogaeth i’r tîm fel rydych chi bob amser yn ei wneud."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.