Sail i fwy na hanner yr honiadau yn erbyn Greg Wallace yn ôl adroddiad

Greg Wallace

Mae dros hanner yr honiadau yn erbyn cyn gyflwynydd rhaglen MasterChef, Gregg Wallace wedi eu cydnabod yn ffurfiol, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.    

O'r 84 o honiadau, mae sail i 45 ohonyn nhw yn ôl y ddogfen, yn cynnwys un yn ymwneud â "chyswllt corfforol na chafodd ei groesawu." 

Mae'r honiadau yn deillio o gyfnod Gregg Wallace ar y rhaglen i'r BBC.    

Fis Tachwedd 2024 , cyhoeddodd y cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen, Banijay UK, bod Mr Wallace yn rhoi'r gorau i'w rôl ar MasterChef, wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i honiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.

Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei arwain gan gwmni cyfreithiol Lewis Silkin, roedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn erbyn Greg Wallace (94%)  "yn ymwneud ag ymddygiad rhwng 2005 a 2018".

Yn ôl y ddogfen, roedd sail i un honiad wedi 2018.

Iaith a hiwmor rywiol amhriodol oedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn ei erbyn, yn ôl yr adroddiad. 

Yn ystod yr ymchwiliad sydd wedi para saith mis, cafodd Greg Wallace ddiagnosis ym ymwneud â chyflwr awtistiaeth, meddai'r ddogfen. 

Mae'r awduron yn dweud y dylai'r casgliadau gael eu hystyried yng nghyd-destun "amrywiaeth niwrolegol".

Cafodd Greg Wallace sy'n 60 oed ei gyfweld deirgwaith am fwy na 14 awr, ac roedd yn fodlon cydweithredu, yn ôl yr ymchwilwyr.  

Yn ôl cwmni Banijay UK, fydd hi ddim yn bosibl i'r cyflwynydd ddychwelyd i'r rhaglen oherwydd yr honiadau yn ei erbyn. 

'Anghyfforddus'

Dywedodd prif weithredwr y cwmni Patrick Holland bod yr adroddiad yn "anghyfforddus i'w ddarllen, ac yn tanlinellu diffygion" ond bod y ddogfen hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig er mwyn sicrhau fod pawb sy'n gweithio ar gynyrchiadau yn y dyfodol yn teimlo'n ddiogel, ac yn cael eu cefnogi.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig "delio ag ymddygiad amhriodol yn gyflym."

Cadarnhaodd na fydd Greg Wallace yn dychwelyd i raglen MasterChef gan gynnig ymddiheuriad: "Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant i unrhyw un sydd wedi dioddef yn sgil yr ymddygiad hwn, ac nad oedd yn teimlo bod modd iddyn nhw siarad ar y pryd, ac i'r rhai sy'n teimlo na chafodd eu cwyn eu cymryd o ddifrif," meddai 

"Colli cyfleoedd"

Yn ôl y BBC, maen nhw wedi dweud wrth Greg Wallace nad oes cynlluniau i weithio gydag e yn y dyfodol.  

"Mae'r ymddygiad hwn yn disgyn yn is na gwerthoedd y BBC a'n digwyliadau ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda, ni neu ar ein cyfer," meddai llefarydd ar ran y gorfforaeth. 

"Er nad oedd y darlun cyflawn yn glir ar y pryd, cafodd cyfleoedd eu colli i fynd i'r afael â'i ymddygiad, gan gwmni cynhyrchu'r rhaglen a'r BBC. Rydym yn derbyn y gallai mwy fod wedi ei wneud ynghynt."

Dyw'r BBC ddim wedi penderfynu eto a fyddan nhw yn darlledu cyfres MasterChef a gafodd ei ffilmio y llynedd.  

Roedd y ddarlledwraig Kirsty Wark, yr actor Emma Kennedy a'r cyflwynydd Kirstie Allsopp ymhlith y rhai a gyflwynodd honiadau yn erbyn Greg Wallace.

Mae Wallace yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Yr wythnos diwethaf, honnodd y cyflwynydd ei fod wedi cael ei glirio o’r "cyhuddiadau mwyaf difrifol" yn ei erbyn cyn i'r ymchwiliad gael ei gyhoeddi.

Mewn datganiad ar ei gyfrif Instagram, dywedodd: "Ni fyddaf yn mynd yn dawel. Ni fyddaf yn cael fy nghanslo er hwylustod. 

"Cefais fy rhoi ar brawf gan y cyfryngau a’m gadael yn ddiamddiffyn cyn i’r ffeithiau gael eu sefydlu.

"Rhaid adrodd stori lawn yr anghyfiawnder anhygoel hwn ac mae’n fater o ddiddordeb cyhoeddus iawn."

Ychwanegodd hefyd ei fod yn cydnabod bod rhywfaint o’i hiwmor a’i iaith yn amhriodol "ar adegau" ac ymddiheurodd am hynny.

Yn ogystal â chyfresi MasterChef, mae Wallace wedi ymddangos ar sawl rhaglen ar y BBC dros y blynyddoedd.

Maen nhw'n cynnwys rhaglenni Inside the Factory, Eat Well For Less a Supermarket Secrets

Fe wnaeth hefyd gystadlu yng nghyfres Strictly Come Dancing yn 2014.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.