Achub pedwar ar ôl i gwch suddo yn agos i Bier Bangor
Fe gafodd pedwar person eu hachub ddydd Sul ar ôl i gwch modur suddo yn agos i Bier y Garth dinas Bangor yn yr Afon Menai.
Cafodd bad achub RNLI Biwmares ei galw i'r lleoliad am 13.15 ddydd Sul, yn dilyn adroddiadau fod cwch modur 17 troedfedd yn suddo.
Fe wnaeth griw'r bad achub Biwmares Atlantic 85 ‘Annette Mary Liddington’ gyrraedd y lleoliad gyda’r cwch wedi suddo’n rhannol.
Roedd pedwar person oedd ar fwrdd y cwch eisoes wedi eu hachub gan gychod eraill, a’u tywys i’r lan.
Wedi i aelodau Gwylwyr y Glannau gyrraedd i fonitro’r rhai oedd ar y cwch, fe wnaeth aelodau’r bad achub geisio atal y cwch rhag suddo’n gyfan gwbl.
Ond wrth i’r criw baratoi i’w dynnu, fe wnaeth y cwch suddo dan y tonnau mewn dŵr naw medr o ddyfnder.
Cafodd lleoliad y cwch ei rannu gyda Gwylwyr y Glannau, cyn i’r bad achub ddychwelyd i’r orsaf ym Miwmares i baratoi am yr alwad nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI: ‘Roedd y ffaith bod y broblem wedi’i hadrodd yn gyflym gan Wylwyr y Glannau yn golygu bod criw gwirfoddol ein bad achub wedi gallu cyrraedd y cwch yn gyflym, asesu’r sefyllfa a chymryd y camau gweithredu gorau.’