Y Rhyl: Arestio dyn wedi ymosodiad a adawodd dyn arall ag anafiadau difrifol
Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad yn y Rhyl sydd wedi gadael dyn arall gydag anafiadau difrifol.
Cafodd y dioddefwr, oedd yn 40 oed anafiadau difrifol a'i gludo i Ysbyty Stoke.
Mae'r llu yn dweud bod y dyn sydd wedi ei arestio wedi ei gadw yn y ddalfa a'u bod yn parhau i gynnal ymholiadau.
Digwyddodd yr ymosodiad ger siop bwcis William Hill ar Ffordd Wellington yn oriau mân fore dydd Sadwrn.
Ychydig cyn 00.30, aeth swyddogion a chriwiau ambiwlans i'r lleoliad yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Mae'r heddlu wedi diolch i'r cyhoedd am eu hymateb ar ôl iddynt apelio am lygad dystion.