Caerdydd: Protestwyr sydd o blaid Palestine Action yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth

Llun: Reuters
Protest Palestine Action Caerdydd

Mae 13 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod protest yn erbyn gwahardd grŵp Palestine Action yng Nghaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd sawl person eu harestio yn ystod y brotest tu allan i adeilad y BBC yn y brifddinas ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau dan Adran 12 y Ddeddf Terfysgaeth, sef cefnogi sefydliad neu grŵp sydd wedi ei wahardd.

Mae'r ymchwiliad sydd yn cael ei arwain gan heddlu gwrth derfysgaeth yn parhau.

Cafodd 70 o bobl eu harestio yng Nghymru a Lloegr mewn protestiadau oedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad.

Yn y brotest yng Nghaerdydd roedd gan brotestwyr faneri ac arwyddion oedd yn dweud 'Rwy'n gwrthwynebu hil-laddiad, rwy'n cefnogi Palestine Action'.

Mae dynodi Palestine Action fel grŵp terfysgol yn golygu bod hi'n drosedd i fod yn aelod neu eu cefnogi. Fe allai olygu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

Cafodd y mudiad ei wahardd wedi iddynt hawlio cyfrifoldeb am achosi difrod gwerth £7 miliwn i awyrennau'r Awyrlu Brenhinol.

Yn ôl gwefan Palestine Action, maen nhw'n sefydliad o blaid Palestina sy'n tarfu ar y diwydiant arfau yn y Deyrnas Unedig trwy weithredu uniongyrchol.

Targed allweddol y grŵp ydy ffatrïoedd Prydeinig y gwneuthurwr arfau o Israel, Elbit Systems.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.