Tywydd eithafol yn dod yn 'fwy arferol' yng Nghymru

Tywydd eithafol

Wedi penwythnos o dywydd poeth eithriadol yng Nghymru mae adroddiad newydd yn dweud bod tywydd eithafol yn dod yn 'fwy arferol' yn y wlad. 

Fe gododd y tymheredd  i dros 30C mewn sawl ardal yng Nghymru dros y penwythnos. Roedd yn rhaid gohirio rhai gwasanaethau trên gan fod difrod wedi ei achosi i'r cledrau o achos y tywydd poeth.

Ond nid tywydd braf yw'r unig fath o dywydd sydd yn troi'n eithafol yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad newydd gan y Swyddfa Dywydd mae'r glaw a stormydd hefyd wedi troi'n fwy eithafol.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe wnaeth de Cymru brofi llifogydd eithafol o achos Storm Bert.

Fe ddisgynnodd dros 150mm o law ar dir uchel a chyhoeddwyd digwyddiad difrifol yn ardal Rhondda Cynon Taf. Fe effeithiodd y llifogydd ar rhwng 200 a 300 o dai a busnesau.

Yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr hefyd cafodd Porthladd Caergybi ei ddifrodi gan olygu bod rhaid canslo teithio ar fferi am rai wythnosau.

Mae'r adroddiad, sydd yn edrych ar y sefyllfa yng Nghymru a gweddill y DU yn canolbwyntio ar y flwyddyn 2024. Fe wnaeth y DU brofi'r ail fis Chwefror cynhesaf, mis Mai cynhesaf, y gwanwyn cynhesaf, y pumed Rhagfyr cynhesaf, â'r pumed gaeaf cynhesaf ers i gofnodion ddechrau ym 1884.

Ond mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod rhai o'r recordiau rhain wedi cael eu torri yn barod yn 2025, sydd yn dystiolaeth bod tywydd eithafol yn dod yn fwy arferol.

'Galwad i weithredu'

Dywedodd Prif Wyddonydd y Swyddfa Dywydd, yr Athro Stephen Belcher, bod tystiolaeth effeithiau newid hinsawdd yn dangos bod yna angen brys i'r DU addasu i ymdopi â thywydd eithafol yn y dyfodol.

"Mae'n debygol y bydd yr hinsawdd yn parhau i newid, ac mae angen i ni baratoi ar gyfer yr effeithiau y bydd hyn yn eu cael ar y tywydd a brofwn," meddai.

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, yr Athro Liz Bentley: “Mae'r rhifyn diweddaraf hwn o adroddiad Cyflwr Hinsawdd y DU yn atgyfnerthu'r arwyddion clir a brys o'n hinsawdd sy'n newid.

"Mae'n dogfennu newidiadau yn y tymheredd, glaw, lefel y môr, a thywydd eithafol sy'n effeithio ar fywydau, seilwaith ac ecosystemau ledled y DU.

“Mae'r adroddiad yn tynnu sylw arbennig at y degawd diwethaf sy'n dangos yn glir pa mor gyflym y mae ein hinsawdd yn esblygu i lywio polisi, cynllunio er mwyn bod yn fwy gwydn ac addasu. 

“Efallai mai'r peth mwyaf trawiadol yw effaith gynyddol y tywydd eithafol...Nid cofnod o newid yn unig yw'r adroddiad hwn, ond galwad i weithredu.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.