Port Talbot: Seremoni i nodi dechrau adeiladu ffwrnais arc drydan

TATA PORT TALBOT (PA)

Fe fydd gwaith dur Port Talbot yn nodi'r dechrau o symud tuag at gynhyrchu dur mwy gwyrdd ddydd Llun. 

Bydd gweinidogion yn ymuno â phenaethiaid Tata Steel ar y safle ar gyfer y seremoni i nodi dechrau adeiladu ffwrnais arc drydan newydd yno. 

Fe ddisgrifiodd Natarajan Chandrasekaran, cadeirydd Tata Steel, y foment fel "diwrnod pwysig i Grŵp Tata, Tata Steel a'r DU."

"Ym Mhort Talbot, rydym yn adeiladu'r seilwaith ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd a glân, cefnogi swyddi, gyrru arloesedd a dangos ein hymrwymiad i arweinyddiaeth gyfrifol yn y diwydiant."

Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer ffwrnais arc drydan gwerth £1.25 biliwn ar y safle, a fydd yn caniatáu i ddur gael ei gynhyrchu gyda llai o allyriadau carbon deuocsid.

Mae disgwyl iddo fod yn weithredol erbyn 2027 fel rhan o'r pwyslais ar gynhyrchu mwy gwyrdd. 

Mae Tata yn dweud y bydd y datblygiad yn torri allyriadau Port Talbot o 90%, tra hefyd yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yn y dref. 

'Diwrnod pwysig'

Fe gaeodd ffwrnais chwyth olaf y safle ym mis Medi 2024, gyda 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi yn sgil hyn. 

Mae rhai ASau wedi dweud fod gweithwyr yn ne Cymru wedi cael eu gadael i lawr i gymharu â'r rhai sydd wedi cadw eu swyddi yn Scunthorpe. 

Fe wnaeth gweinidogion gymryd rheolaeth o'r gwaith dur yn Scunthorpe i atal cau'r ffwrneisi chwyth yno. 

Dywedodd Llywodraeth y DU fod y gweithiau dur mewn sefyllfaoedd gwahanol. 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: "Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i ddiwydiant trwm yng Nghymru, gan fod y ffwrnais arc drydan wedi sicrhau dyfodol tymor hir o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

"Mae gweld rhawiau yn y ddaear heddiw yn arwydd o fwriad Tata i barhau i gynhyrchu dur yn yr ardal, diwydiant sydd wedi darparu swyddi o ansawdd i bobl leol ers cenedlaethau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.