'Hail to Wales': Snoop Dogg yn hyrwyddo crysau pêl-droed newydd Abertawe
Mae'r rapiwr Snoop Dogg wedi ymddangos yn ymgyrch farchnata ddiweddaraf Clwb Pêl-droed Abertawe i hyrwyddo eu crysau cyn y tymor newydd.
Fe gafodd fideo ohono'n cyfarch y cefnogwyr, gan gyhoeddi 'Hail to Wales' - ei rhyddhau nos Sadwrn, er mawr syndod i lawer o gefnogwyr yr Elyrch.
Roedd ambell gefnogwr yn amau os mai gwaith technoleg AI o'r canwr, sydd wedi cyfansoddi caneuon poblogaidd yn cynnwys Drop It Like It's Hot, oedd y fideo.
Nid dyma'r tro cyntaf i'r rapiwr ddangos ei gefnogaeth i dîm pêl-droed.
Mae wedi ei weld yn gwisgo crys clwb Dinas Caerdydd yn y gorffennol, a hefyd dweud ei fod yn gefnogwr o Celtic.
Tra'n perfformio yn Glasgow yn gynharach eleni, dywedodd Snoop Dogg mai ei freuddwyd oedd agor fan gwerthu byrgyrs tu allan i stadiwm Celtic yn y ddinas.