Canslo rasys rhedeg ar Yr Wyddfa o achos y gwres llethol
Mae nifer o rasys rhedeg wedi eu canslo ar Yr Wyddfa ddydd Sadwrn, a hynny o achos y gwres llethol.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiadau, Camu i'r Copa, nad oedd yn ddiogel i barhau gyda'r rasys o ganlyniad i'r tymheredd ar y mynydd.
Mewn neges bnawn Sadwrn, dywedodd y trefnwyr: "Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod ras heddiw - gan gynnwys y 10K, Hanner Marathon, Marathon, Ultra dros bellteroedd, a digwyddiad Yr Wyddfa 24 wedi'u hatal.
"Oherwydd tymereddau eithafol, nid yw bellach yn ddiogel parhau â'r digwyddiad.
"Ar hyn o bryd mae pob rhedwr yn cael ei hebrwng yn ddiogel oddi ar y mynydd gan ein staff digwyddiad a'n tîm arweinwyr mynydd.
"Ein blaenoriaeth yw diogelwch a lles yr holl gyfranogwyr. Byddwch yn amyneddgar wrth i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod pawb yn dychwelyd yn ddiogel."
Ymysg y digwyddiadau gafodd eu canslo oedd ras Black Diamond Yr Wyddfa 24 - ras i unigolion neu dimau geisio redeg i ben Yr Wyddfa gymaint o weithiau â phosib mewn 24 awr.
Mae'n cael ei disgrifio fel "her dygnwch eithafol sydd yn gofyn am nerth corfforol a meddyliol."
Y record bresennol yw wyth lap o'r mynydd.