Gogledd Iwerddon: Diffoddwyr tân wedi delio â 'noson heriol' cyn dathliadau 12 Gorffennaf
Mae diffoddwyr tân yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud eu bod wedi delio â noson heriol nos Wener wrth i goelcerthi gael eu cynnau cyn dathliadau 12 Gorffennaf.
Mae degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull yn y strydoedd ar gyfer y gorymdeithiau yr Urdd Oren (Orange Order) ddydd Sadwrn.
Mae'r dathliadau yn cael eu cynnal ar draws 19 prif leoliad i nodi 334 mlynedd ers Brwydr y Boyne lle y gwnaeth y Brenin Protestannaidd William III drechu'r Brenin Catholig James II.
Daw hyn wedi i goelcerthi gael eu llosgi mewn tua 300 lleoliad gwahanol ar draws Gogledd Iwerddon nos Iau a nos Wener.
Fe gafodd delweddau o fudwyr mewn cwch eu llosgi mewn coelcerth yn Moygashel yn Sir Tyrone.
Cafodd lluniau o'r band rap Kneecap a fflagiau Gwyddeleg eu llosgi mewn coelcerthi eraill.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon (NIFRS) ei fod wedi delio â 72 o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â thân gwyllt yn ystod y noson.
Ymosodwyd ar un diffoddwr tân wrth ymateb i un tân gwyllt yn Lisburn, Sir Antrim.
O'r holl orymdeithiau ddydd Sadwrn, mae 30 ohonynt wedi cael eu categoreiddio fel rhai sensitif gan y Comisiwn Gorymdeithiau.
Mae lleoliadau y gorymdeithiau sensitif eleni yn cynnwys Belfast, Coleraine, Keady, Dunloy, Rasharkin, Strabane, Newtownabbey, Maghera, Newtownbutler, Portadown, Glengormley a Bellaghy.
Mae mwy na 4,000 o swyddogion heddlu a staff heddlu yn gweithio ddydd Sadwrn.
Mae’r Prif Gwnstabl Jon Boutcher wedi gofyn am barch i’r ddwy ochr wrth nodi digwyddiadau.
"Bydd ein swyddogion ar lawr gwlad drwy gydol y penwythnos, yn gweithio mewn partneriaeth ag arweinwyr cymunedol, trefnwyr digwyddiadau, a chynrychiolwyr lleol i gefnogi digwyddiadau cyfreithlon, heddychlon, a chyfeillgar i deuluoedd," meddai.
"Ond, lle bo angen, byddwn yn cymryd camau cadarn i gadw pobl yn ddiogel."