Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu torri dros 500 o swyddi

Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu torri hyd at 550 o swyddi wrth geisio mynd i’r afael â phwysau ariannol.

Mae’r elusen gadwraethol wedi dweud wrth staff ei bod yn anelu i wneud arbedion o £26 miliwn drwy leihau'r hyn y mae'n ei wario ar gyflogau.

Mae costau cynyddol, sydd yn cynnwys cyfraniadau yswiriant gwladol, yn codi yn uwch na’r twf mewn ymwelwyr i’w safleoedd, a’r rhoddion arian y mae’n ei dderbyn, yn ôl yr elusen.

Mae disgwyl y bydd 6% o swyddi yn cael eu torri ar draws y gweithlu, oedd yn cynnwys 9,575 o bobl ym mis Chwefror.

Fe allai hyn olygu y bydd hyd at 550 o swyddi yn cael eu colli. 

Mae’r elusen wedi cychwyn cyfnod ymgyhgori 45 diwrnod gyda staff.

'Anodd'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Er bod y galw a’r gefnogaeth i’n gwaith yn tyfu gyda chynnydd blynyddol mewn ymwelwyr a rhoddion, mae costau cynyddol yn codi uwchlaw y twf hwn.

“Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hyn i’n pobl ac yn hynod ddiolchgar am eu sgiliau a’u proffesiynoldeb.

“Rydym yn gweithio’n galed, gyda’r undeb Prospect, i wneud y newid mor ddi-boen â phosibl.

“Mae hyn yn dilyn misoedd o fesurau arbed costau eraill. Rydym bob amser eisiau osgoi colli swyddi.”

Wrth ymateb, dywedodd Steve Thomas, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol yr undeb llafur Prospect, y bydd y toriadau bosib yn dod ag “ansicrwydd a phryder enfawr i staff”.

“Rydym yn deall y pwysau costau y mae’r ymddiriedolaeth yn ei hwynebu ond mae penderfyniadau rheoli, yn ogystal â ffactorau allanol, wedi cyfrannu at y sefyllfa ariannol ac unwaith eto ein haelodau ni fydd yn gorfod talu’r pris,” meddai.

Cafodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei sefydlu dros 125 mlynedd yn ôl, ac mae'n gofalu am ardaloedd gwarchodedig ar draws arfordir y DU, safleoedd hanesyddol a mannau gwyrdd.

Mae 54 o safleoedd gan yr ymddiriedolaeth yng Nghymru, gan gynnwys plastai, gerddi ac ardaloedd o arfordir a chefn gwlad.

Llun: Pont Grog Conwy a Thŷ Mawr Wybrnant (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.