Menyw yn pledio'n ddieuog i lofruddio menyw yn Nhonysguboriau
Mae menyw wedi pledio'n ddieuog i lofruddio menyw a gafodd ei saethu'n farw yn Nhonysguboriau.
Fe gafodd Joanne Penney ei hanafu'n ddifrifol ym Mharc Green yn Nhalbot Green, Rhondda Cynon Taf, ar 9 Mawrth a bu farw yn y fan a'r lle.
Mae wyth o bobl bellach wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd i wadu cyhuddiadau mewn cysylltiad â'i marwolaeth.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Melissa Quailey-Dashper, 39, o Gaerlŷr, ymddangos yn y llys i wadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Fe wnaeth hi bledio'n ddieuog hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol rhwng 11 Mawrth 2024 ac 11 Mawrth eleni.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth Quailey-Dashper y bydd yr achos yn cael ei gynnal ar 20 Hydref.
Ddydd Llun, fe wnaeth saith diffynnydd arall ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â'r achos.
Fe wnaeth Joshua Gordon, 27, Marcus Huntley, 20, Jordan Mills-Smith, 33, Kristina Ginova, 21, a Tony Porter, 68, bledio'n ddieuog o lofruddiaeth.
Fe wnaeth Gordon o Oadby yn Sir Gaerlŷr, Huntley o Laneirwg yng Nghaerdydd, Mills-Smith o Bentwyn yng Nghaerdydd, Ginova 0 Oadby yn Sir Gaerlŷr, a Porter o Braunstone Town Sir Gaerlŷr wadu cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol rhwng 11 Mawrth 2024 ac 11 Mawrth eleni.
Mae Sai Raj Manne, 25, heb gyfeiriad sefydlog, a Molly Cooper, 33 o Gaerlŷr, hefyd wedi gwadu cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol.
Fe wnaeth Manne wadu bod â gwn yn ei feddiant, ac fe wnaeth Cooper wadu cael gafael ar fwledi heb drwydded.
Fe gafodd y diffynyddion eu cadw yn y ddalfa cyn y gwrandawiad nesaf.