Rhybudd i elusen o Gaerdydd am rannu fideo oedd yn clodfori Hamas

Canolfan Al-Manar

Mae'r Comisiwn Elusennol wedi canfod camymddygiad a chamreoli gan ymddiriedolwyr elusen yng Nghaerdydd a oedd yn wynebu ymchwiliad dros ei defnydd o fideo ar gyfryngau cymdeithasol.

Cafodd Ymddiriedolaeth Canolfan Al-Manar ei sefydlu yn 2009 i wella a chefnogi addysg Islamaiadd yng Nghaerdydd ac addysgu'r cyhoedd am grefydd Islam.

Ym mis Ionawr 2024, daeth y Comisiwn Elusennol yn ymwybodol o fideo a gafodd ei rhannu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol yr elusen ym mis Tachwedd 2023. 

Yn ôl y Comisiwn, roedd y fideo yn cynnwys deunydd a allai awgrymu cefnogaeth tuag at sefydliad terfysgol Hamas.

Ni chafodd y fideo ei chreu gan yr elusen, ond fe gafodd ei phostio ar un o'i phlatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Ymchwiliad

Ym mis Chwefror 2024, fe wnaeth y rheoleiddiwr lansio ymchwiliad i'r elusen, gan archwilio ei rheolaeth o'i chyfryngau cymdeithasol a'i gwefan, a'r amgylchiadau wrth bostio'r fideo. 

Clywodd yr ymchwiliad fod cadeirydd yr elusen wedi postio'r fideo ar ôl gwrando ar y sain yn unig.

Roedd y cadeirydd o'r farn fod y sain yn cyd-fynd ag amcanion yr elusen, heb wirio'r deunydd gweledol. 

Yng ngolwg yr ymchwiliad, mae'r fideo yn cynnwys deunydd sy'n cyflwyno delwedd bositif o Hamas a'i ymosodiad terfysgol ar Israel ym mis Hydref 2023. 

Yn sgil hyn, daeth yr ymchwiliad i'r farn fod y fideo yn debygol o arwain aelod arferol o'r cyhoedd i'r casgliad bod yr elusen yn cefnogi terfysgaeth.

Ychwanegodd yr ymchwiliad fod yna fethiannau gan ymddiriedolwyr ar yr adeg y cafodd y fideo ei chyhoeddi i sicrhau monitro digonol o'r deunydd oedd yn cael ei bostio ar-lein gan yr elusen. 

Er eu bod wedi derbyn cyngor rheoleiddiol yn 2014 i amddiffyn yr elusen rhag camdriniaeth eithafol, daeth y Comisiwn i'r casgliad fod ymddiriedolwyr wedi methu â gweithredu rheolaethau cyfryngau cymdeithasol digonol.

Yn sgil camymddygiad a chamreolaeth yr ymddiriedolwyr wrth bostio'r fideo a'r diffyg rheolaethau, mae'r elusen wedi derbyn Rhybudd Swyddogol gan y Comisiwn. 

'Nid oes esgus'

Ym mis Hydref 2024, fe wnaeth y Comisiwn orchymyn i'r ymddiriedolwyr i gymryd camau yn ymwneud â defnydd yr elusen o'i gwefan a'i chyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cynnwys adolygiad o'r holl ddeunydd ar ei gwefan a'i llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth yr ymddiriedolwyr gydymffurfio yn llawn â'r gorchymyn.

Dywedodd Joshua Farbridge, Pennaeth Ymweliadau ac Arolygiadau Cydymffurfiaeth yn y Comisiwn Elusennau: "Daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod ymddygiad yr ymddiriedolwyr yn is na’r safonau a sydd i'w disgwyl ganddynt. 

"Arweiniodd rheolaethau annigonol dros gyfryngau cymdeithasol at rannu cynnwys niweidiol, ac nid oes esgus dros fethu ag adolygu cynnwys yn iawn cyn iddo gael ei rannu gan elusen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.