Ail-agor hen gaffi poblogaidd yn Eryri ar ei newydd wedd

Pete's Eats

Mae cyn-gaffi adnabyddus oedd yn boblogaidd gyda cherddwyr yn Eryri bellach wedi ail-agor o dan berchnogaeth newydd. 

Fe gafodd caffi Pete's Eats yn Llanberis ei agor ar ddiwedd y 70au, ond roedd wedi bod ar gau ers tro.

Yn boblogaidd gyda phobl oedd yn dringo'r Wyddfa neu'n ymweld â thref Llanberis, fe gafodd y caffi ei werthu yn 2018 gan Pete a Vicky Norton, cyn iddo gael ei roi ar y farchnad unwaith yn rhagor ym mis Mawrth 2022.

Fe wnaeth y dyn busnes Nick Pritchard gais i drawsnewid y lleoliad a'i gadw fel caffi.

Mewn neges yn ddiweddar, fe ddywedodd y caffi, sy'n parhau i ddefnyddio'r enw Pete's Eats: "Rydym ni'n falch i fod yn rhan o Lanberis. 

"Yr ysbrydoliaeth ar gyfer ein bwyd, y tu mewn i'r adeilad a'n stori." 

Mae'r gwaith o adnewyddu'r caffi wedi bod yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ers dechrau mis Mehefin.

Nos Fercher, fe gafodd noson agoriadol y caffi ar ei newydd wedd ei chynnal, gyda'r lleoliad ar agor saith diwrnod yr wythnos i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn ymlaen.

Llun: Pete's Eats

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.