Cwmni ynni cenedlaethol yn addo creu 'cannoedd o swyddi' wrth gyhoeddi lleoliadau ffermydd gwynt

Cwmni ynni cenedlaethol yn addo creu 'cannoedd o swyddi' wrth gyhoeddi lleoliadau ffermydd gwynt

Mae cwmni Trydan Gwyrdd Cymru wedi addo creu cannoedd o swyddi wrth gyhoeddi cynlluniau ar gyfer lleoliadau ei ffermydd gwynt cyntaf.

Yn ôl y cwmni, byddai hyd at 650 o swyddi yn cael eu creu dros gyfnod o 18 mis i ddwy flynedd.

Cafodd Trydan Gwyrdd Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024, er mwyn cyflymu datblygiad prosiectau ynni cynaladwy ar dir cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig ar y môr.

Cyhoeddodd y cwmni gynlluniau ar gyfer tri safle yng Nghymru, yng ngogledd, de a gorllewin Cymru, ddydd Gwener.

Byddai hyn yn ôl y cwmni yn 'ddigon i bweru 350,000 o anghenion trydan cyfartalog cartrefi Cymru' drwy gynhyrchu hyd at 400 MW o ynni glân, sef tua chwarter o gartrefi Cymru.

Mae ynni gwyrdd yn bwnc dadleuol, a chroeso gofalus sydd wedi dod gan rai o fewn y sector.

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn pryderu am effaith bosibl prosiectau ynni adnewyddadwy Trydan Gwyrdd Cymru, yn enwedig ffermydd gwynt ar y tir, ar dirweddau gwledig Cymru. 

Mae YDCW wedi cydnabod yr angen am ynni adnewyddadwy, ond yn dadlau dros gydbwysedd rhwng cynhyrchu ynni a chadw harddwch naturiol a bioamrywiaeth. 

Maent wedi codi pryderon ynghylch maint y datblygiadau ynni gwynt ar y tir, a'r effaith bosibl ar ardaloedd gwarchodedig a chymunedau lleol.

Lleoliadau

Byddai fferm wynt Clocaenog Dau ger Llyn Brenig rhwng Sir Ddinbych a Sir Conwy yn cynhyrchu hyd at 132 MW, gyda fferm wynt Glyn Cothi yn Sir Gâr yn cynhyrchu hyd at 162 MW, a fferm wynt Carreg Wen yn Rhondda Cynon Taf yn cynhyrchu hyd at 108 MW. 

Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn 2024, ac mae'n dweud ei fod yn gam arwyddocaol i ddatblygu 1 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar dir cyhoeddus Cymru erbyn 2040.

Byddai'r ffermydd gwynt yn cael eu datblygu ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru, sydd gan tua 126,000 hectar, ac mae hynny yn gyfystyr i tua 6% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru.

Mae torri allyriadau carbon yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru, sy'n anelu i'r wlad gynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i ddiwallu 70% o'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio yng Nghymru erbyn 2030, gan godi i 100% erbyn 2035. 

'Defnydd gorau'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Rebecca Evans: "Drwy ddatblygu y prosiectau hyn ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'n tir cyhoeddus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chreu cyfleoedd economaidd cynaliadwy."

Mae rhagor o brosiectau ynni cynaliadwy yn cael eu datblygu, gyda disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru Richard Evans: "Gyda chwmni Trydan yn flaenllaw i'r datblygiad, a'r elw o'r buddsoddiad yma yn cael ei gadw yng Nghymru, mae gennym gyfle unigryw i wneud y mwyaf o'r prosiectau a'r manteision lluosog sydd ganddyn nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.