Japan v Cymru: ‘Ewch i greu hanes’ medd Eddie Jones wrth ei dîm
Japan v Cymru: ‘Ewch i greu hanes’ medd Eddie Jones wrth ei dîm
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Japan wedi annog ei dîm i “greu hanes” trwy guro Cymru am yr eildro yn olynol.
Roedd y fuddugoliaeth o 24-19 ddydd Sadwrn diwethaf yn golygu fod Cymru wedi colli 18 o gemau rhyngwladol yn olynol ac wedi disgyn i rif 14 ar restr detholion y byd o dan Georgia, Japan a Samoa.
Dywedodd Jones: "Nid yw Japan erioed wedi cael record o guro tîm o'r haen uchaf yn olynol felly mae gennym gyfle i greu hanes.
"Ond y peth pwysicaf i ni yw ein bod ni'n gwybod y gallwn ni chwarae'n well.
"Fe wnaethon ni chwarae'n dda yn y gêm gyntaf -- rydyn ni'n gwybod y bydd yn rhaid i ni chwarae gyda mwy o ddwyster, mwy o ymdrech, a chyflawni ein symudiadau.”
Fe chwaraewyd y gêm ddydd Sadwrn diwethaf yn Kitakyushu mewn tymheredd o 31C.
Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd 36C yn Kobe ddydd Sadwrn, mewn gêm fydd dan do.
Mae Cymru wedi cwestiynu hyn, gan arwain Jones, a oedd yn brif hyfforddwr Lloegr, i daro nôl yn bigog.
Dywedodd Jones nad oedd yn gwybod a fyddai'r to ar agor neu ar gau, ond ychwanegodd ei fod yn "eithaf eironig siarad am doi pan fyddwch chi'n chwarae yn erbyn Cymru".
Dywedodd: "Ar ôl gwybod beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n mynd yno gyda Lloegr, p'un a yw'n mynd i fod ar agor neu ar gau, a yw'n mynd i lawio neu beidio.
"Mae'r holl gynllwynion hynny yr un fath ym mhob gwlad yn y byd.
"Pan fyddwn ni'n mynd i fyny yn hemisffer y gogledd, does neb yn troi'r gwresogydd ymlaen."
Newidiadau
Mae prif hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt, wedi gwneud pedwar newid i dîm Cymru ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Japan ddydd Sadwrn.
Nid yw'r wythwr profiadol Taulupe Faletau na'r maswr Sam Costelow wedi eu cynnwys yn y garfan.
Dywedodd Sherrat bod gan Faletau anaf, gan olygu nad yw ar gael ar gyfer yr ornest.
Aaron Wainwight fydd yn cymryd ei le yn y safle rhif wyth.
Dyma fydd y cyfle olaf i Gymru dod â'r rhediad o golli 18 gêm yn olynol i ben cyn gemau'r hydref, pan fyddent yn herio'r Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica.
Dywedodd Sherratt y gall y maswr Dan Edwards wneud gwahaniaeth gyda’i gyflymdra.
Dywedodd: "Mae e’n fygythiad triphlyg, yr hyn rwy’n ei olygu wrth ddweud hynny yw ei fod e’n gallu rhedeg, pasio a chicio.
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor gyflym oedd e tan yr wythnos hon.
“Os yw e wedi gweld bwlch mae ganddo gyflymder da i’w gymryd felly mae ganddo rywfaint o’r X ffactor.”
Er i Gymru golli wythnos yn ôl dywedodd bachwr a chapten Cymru Dewi Lake fod y tîm yn awchu am fuddugoliaeth.
Dywedodd: “Mae’r ymateb di bod yn dda.
“Geson ni cwpwl o ddiwrnodau bant ar ôl y gêm.
“Regroup ac amser i neud reviews a pethau felna, edrych nôl ar y gem.
"So ma’r wythnos ‘ma di bod yn dda o ran prep, bois yn gwbod ble ma’r gêm di mynd i ffwrdd o ni a gobitho ni ‘di rhoi’r pethau yna yn gywir yn barod am y penwythnos.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans