Cychod bach: Starmer a Macron yn cytuno ar gynllun un i mewn, un allan

Cychod bach: Starmer a Macron yn cytuno ar gynllun un i mewn, un allan

Mae Prif Weinidog y DU ac Arlywydd Ffrainc wedi cytuno ar gynllun i anfon mudwyr sy'n teithio i'r DU ar gychod bach yn ôl i Ffrainc, gyda cheisiwr lloches yn cael ei anfon i'r DU ar "lwybr diogel" yn gyfnewid. 

Dywedodd Syr Keir Starmer ddydd Iau y byddai'r cynllun yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng y mudwyr yn Sianel Lloegr.

O dan y cynllun peilot, bydd modd anfon pobl sy'n cyrraedd y DU ar gychod yn ôl i Ffrainc am y tro cyntaf.

Fe wnaeth y Prif Weinidog nodi manylion y cynllun ar ddiwedd ymweliad Emmanuel Macron â'r DU.

Mewn cynhadledd i'r wasg ar y cyd gyda Mr Macron yn Llundain, dywedodd Syr Keir "does dim ateb syml".

"Ond gydag ymdrech unedig, tactegau newydd a lefel newydd o fwriad, gallwn o'r diwedd droi'r byrddau," meddai.

O dan y cynllun peilot, "bydd mudwyr sy'n cyrraedd ar gychod bach yn cael eu cadw a'u dychwelyd i Ffrainc yn fuan iawn".

"Yn gyfnewid am bob dychweliad, bydd unigolyn gwahanol yn cael dod yma ar lwybr diogel, rheoledig a chyfreithlon, yn amodol ar wiriadau diogelwch llym a dim ond ar agor i'r rhai nad ydynt wedi ceisio dod i mewn i'r DU yn anghyfreithlon."

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd y cynllun peilot, a fydd yn dechrau o fewn wythnosau "yn dangos i eraill sy’n ceisio gwneud yr un daith y bydd yn ofer".

Gan egluro pam y byddai’r DU yn derbyn rhywun yn gyfnewid am fudwr ar gwch bach, dywedodd Syr Keir: "Rydym yn derbyn ceiswyr lloches ddilys oherwydd ei bod yn iawn ein bod yn cynnig hafan i’r rhai sydd mewn gwir angen.

"Ond mae yna rywbeth arall hefyd, rhywbeth mwy ymarferol sef na allwn ddatrys her fel atal y cychod trwy weithredu ar ein pennau ein hunain a dweud wrth ein cynghreiriaid na fyddwn yn cydweithio.

"Dyna pam mae cytundeb heddiw mor bwysig, oherwydd byddwn yn datrys hyn, fel cymaint o’n problemau, trwy gydweithio."

Llun: Yui Mok / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.