Gwahodd Bob Dylan i gartref Dylan Thomas wrth iddo gyhoeddi gigiau yn Abertawe
Mae arbenigwr ar waith Dylan Thomas wedi dweud y bydd Bob Dylan yn cael gwahoddiad i ymweld â chartref y bardd yn Abertawe wrth iddo chwarae cyfres o gigiau yn y dref ym mis Tachwedd.
Mae Bob Dylan wedi cyhoeddi cyfres o gigiau yn Arena Abertawe ar Dachwedd 9, 10 ac 11.
Dywedodd yr arbenigwr Alun Gibbard sy’n helpu'r gwaith o gynnal man geni Dylan Thomas, 5 Cwmdonkin Drive, fod y bardd yn ddylanwad amlwg ar waith Bob Dylan.
Fe gafodd ddylanwad nid yn unig ar enw Bob Dylan - Robert Zimmerman gynt- ond hefyd ar ganeuon y cerddor sydd wedi ennill Gwobr Lenyddiaeth Nobel, meddai.
“Fe fyddwn ni’n gyrru gwahoddiad agored iddo fe i ddod draw i weld man geni Dylan Thomas,” meddai Alun Gibbard.
“Fe fydd yn eitha’ hwb i fan geni Dylan Thomas a bydd y gigiau yn siŵr o ddod â phobl sydd â diddordeb yn Bob Dylan a Dylan Thomas at ei gilydd.
“Mae’n ddwy flynedd ers i Johnny Depp ymweld â ni ac fe wnaeth hynny dipyn o wahaniaeth.
"Rwy’n credu y byddai ymweliad gan Bob Dylan yn cael mwy fyth.”
Fe gafodd Bob Dylan wahoddiad i Abertawe fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014 ond nid oedd yn gallu dod bryd hynny.
Sioeau
Bydd Bob Dylan, sydd bellach yn 84 oed, hefyd yn perfformio yn Nulyn, Glasgow, Brighton, Leeds a Coventry fel rhan o'i daith fyd-eang Rough And Rowdy Ways.
Bydd y sioeau'n ddi-ffôn, gan ofyn i bobl roi eu ffonau mewn cwdyn Yondr, sy'n cau'n awtomatig pan fyddant yn y lleoliad ac yn datgloi yng nghyntedd y lleoliad.
Mae'r canwr yn un o gyfansoddwyr caneuon mwyaf uchel ei barch erioed, gan ennill 10 Grammy a chael ei enwebu ar 38 achlysur pellach.
Mae gan Dylan chwe sengl a gyrhaeddodd 10 uchaf y DU a naw albwm a gyrhaeddodd rif un y DU.
Ef oedd y cyfansoddwr caneuon cyntaf i dderbyn Gwobr Nobel am Lenyddiaeth yn 2016, gyda’r academi yn Sweden yn ei gydnabod am “greu barddoniaeth newydd o fewn traddodiad caneuon mawr America”.
Bydd tocynnau ar gyfer y daith ar werth ddydd Gwener Gorffennaf 18 am 10.00.